Buddsoddi yn ein cartrefi ym Maes Padarn, Llanberis
Rydym wedi dechrau ar waith buddsoddi ar gartrefi ar stâd Maes Padarn, Llanberis er mwyn gwella effeithlonrwydd a safon y cartrefi. Mae’r cynllun buddsoddi yma yn cynnwys 13 o dai a phum bloc o fflatiau.
Rydym yn deall pa mor bwysig ydi’ch cartrefi. Rydym hefyd yn deall pa mor bwysig ydi ein bod yn parhau i fuddsoddi a gwario ar y tai sydd gennym yn ogystal ag adeiladu tai newydd o safon i gyfarch yr angen tai lleol.
Un ffordd yr ydym yn cyfarch hyn ydi drwy gynnal gwaith gwella allanol y tai a chynnal gwaith mewn gwahanol ardaloedd yng Ngwynedd, fel Llanberis.
Mae cadw’r bunt yn lleol, cyfrannu at yr economi lleol yn bwysig i ni. Dyma pam yr ydym yn gweithio gyda chontractwyr lleol sydd hefyd yn rhoi yn ôl i’n cymuned drwy ein cynllun gwerth cymdeithasol ac rydym yn falch o fod wedi penodi W F Clayton fel ein prif gontractwr ar y safle.
Mae’r gwaith ym Maes Padarn yn cynnwys
- rhoi to newydd ar y tai
- insiwleiddio a rendro waliau tu allan
- gosod ffenestri newydd
- gosod gwteri newydd
- gwella llwybrau a ffensys a mwy.
Mae’n waith sylweddol ar gartref a mae cwblhau gwaith fel hyn yn cymryd amser. Ond rydym yn teimlo fod buddsodi arian ac amser i wneud y gwaith yma yn un o’n prif flaenoriaethau ni. Gyda phrisiau ynni yn cynyddu a chostau byw mor uchel rydym yn deall y pwysau sydd ar bawb gan gynnwys ein cwsmeriaid ac felly yn deall pwysigrwydd gwneud eich cartref y mwyaf effeithlon â phosib.
Rydym yn edrych ymlaen at weld y gwaith yma’n mynd ymlaen ac i’w gweld wedi cwblhau.