Llun o weithwyr yn gweithio ar do llechi

Buddsoddiadau yn ein cartrefi yn parhau

Fel rhan o’n Cynlluniau Buddsoddi Cyfalaf Mawr, hyd yma mae 1,376 o eiddo wedi derbyn gwaith yn ystod blwyddyn ariannol 2024/2025.

Mae’r gwelliannau hyn yn cynnwys y tu mewn a’r tu allan i’n cartrefi ac yn cynnwys; ynni, gwresogi, addasiadau, mesurau atal tân, ffensio a phalmentydd. Mae rhywfaint o’r gwaith hwn wedi’i gyflawni gan ein gweithlu ymroddedig Trwsio, gyda’r gweddill yn cael ei wneud gan gontractwyr dibynadwy.

Hyd yma mae gwaith allanol sylweddol wedi digwydd mewn nifer o gymunedau, gan gynnwys Morfa Garreg (Pwllheli), Pensyflog (Porthmadog), Trem yr Wyddfa (Penygroes), Toronnen (Bangor), Dinas Mawddwy, Aberangell ac Aberllefenni, Deiniolen a Glasinfryn, Trefor a Phontllyfni a Chibyn (Caernarfon).

Bydd gwaith pellach hefyd yn digwydd o amgylch Hirael (Bangor), Rhosgadfan a Rhostryfan, Criccieth, Blaenau Ffestiniog, Dyffryn Ardudwy, Harlech a Thalsarnau.

Rhwng Ebrill a Rhagfyr 2024, roedd 953 o gydrannau wedi’u cwblhau. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys ceginau, ystafelloedd ymolchi, trydanol, uwchraddio gwres, waliau, ffenestri a drysau, toi, ffensys, llwybrau, inswleiddio atig, addasiadau, a systemau batri.

Dywedodd Mathew Gosset, ein Dirprwy Gyfarwyddwr Eiddo: “Rydym yn falch o roi diweddariad ar ein rhaglen uchelgeisiol o waith gwella i’n heiddo.  Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i’n cwsmeriaid a sicrhau bod ganddynt gartrefi y maent yn falch o fyw ynddynt. Rydym am sicrhau bod ein cartrefi’n ddiogel ac yn gyfforddus ac yn bodloni safonau diogelwch llym.

“Rydym eisoes wedi cwblhau llawer o waith i safon uchel, yn unol â safonau cenedlaethol ac rydym yn edrych ymlaen at ddechrau ar gynlluniau sydd wedi’u cynllunio mewn llawer o’n cymunedau, gyda mwy o gwsmeriaid yn elwa o’r buddsoddiad parhaus”.