Bwrdd Adra yn rhoi sêl bendith i ddatblygiad tai yn Ninbych
Mae Bwrdd cymdeithas dai Adra wedi cymeradwyo cynllun ar gyfer 110 o dai ar safle Gwaenynog yn Ninbych – gyda 80 (73%) o’r tai hynny yn dai fforddiadwy.
Mi gafodd cais cynllunio ar gyfer 110 o dai ar dir gyferbyn a safle Ysgol Pendref ei gymeradwyo gan Gyngor Sir Ddinbych nol yn Nhachwedd 2022 a rhoddwyd caniatâd pellach ar gyfer cynllun gosodiad diwygiedig gan y Cyngor fis diwethaf.
Bydd Adra nawr yn gweithio gyda chwmni Castle Green Homes er mwyn datblygu’r cynllun dros gyfnod o ddwy flynedd a hanner, gyda’r gwaith wedi ei gwblhau erbyn Medi 2025. Bydd r tai yn gymysgedd o dai rhenti cymdeithasol a rhenti ar y farchnad.
Dywedodd Daniel Parry, Cyfarwyddwr Datblygu Adra: “Mae’r penderfyniad gan fwrdd Adra yn mynd a ni gam agosach at wireddu’r prosiect yma,
“Mae ‘na alw cynyddol am dai fforddiadwy yn yr ardal hon o Sir Ddinbych, yn enwedig yn ystod yr hinsawdd economaidd bresennol ac mae asiantaethau gwerthu tai yn y sir eisoes yn dweud fod nifer fawr o bobl wedi cofrestru am wybodaeth am eiddo rhent yn yr ardal.
“Mae’r datblygiad diweddaraf yma gan Adra hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad cadarn yn y Cynllun Corfforaethol i adeiladu 900 o gartrefi newydd erbyn 2025, gan gynyddu nifer ei heiddo i dros 7,500, yn ogystal â buddsoddi £60 miliwn yn ei heiddo presennol”.