
Cadarnhau aelod newydd i’r Bwrdd
Mae’r Bwrdd wedi cymeradwyo apwyntiad Helen Pye fel aelod cyf-etholedig.
Cadarnawyd yr apwyniad yn dilyn ymgyrch recriwtio llwyddiannus.
Ar hyn o bryd mae Helen yn gweithio fel Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Ymgynghori o fewn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol; ac mae wedi gweithio yn y gorffennol i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fel Pennaeth y Gwasanaeth Ymgysylltu ac fel Rheolwr Partneriaeth. Mae gan Helen gefndir hefyd fel warden o fewn parciau cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog.
Yn byw yn Llanddona ar Ynys Môn, graddiodd Helen mewn Cadwraeth Cefn Gwlad o Brifysgol Aberystwyth.
Dywedodd Hywel Eifion Jones, Cadeirydd y Bwrdd: “Rydym yn hynod falch o gymeradwyo’r apwyntiad yma. Mae Helen yn dod â chyfoeth o sgiliau a phrofiad a fyddai’n ychwanegu’n sylweddol at yr amrywiaeth sydd ar y Bwrdd.
“Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu Helen i’w chyfarfod cyntaf ym mis Mai”.
Dywedodd Helen: “Rwy’n hynod falch o allu ymuno a Bwrdd Adra. Mae’r cyfle i gyfrannu at y gwaith pwysig y mae Adra yn ei wneud yn gyffrous iawn. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm a’r cyfraniad y gallaf ei wneud, yn enwedig o ran cefnogi’r ymdrechion i ddatgarboneiddio stoc tai Adra, sy’n hanfodol, nid yn unig i leihau costau ynni i’n tenantiaid ond hefyd i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw a newid hinsawdd”.