Four fire officers standing outside a house, with the resident of the house standing in the doorway.

Cadwch yn ddiogel y Nadolig yma

Sicrhewch eich bod chi a’ch teulu yn aros yn ddiogel y Nadolig hwn, dyma bwyntiau diogelwch tân pwysig i ddilyn.

  1. Gwnewch yn siŵr fod goleuadau eich coeden Nadolig yn cydymffurfio â’r Safon Brydeinig. Defnyddiwch RCD bob amser ar offer trydanol awyr agored (dyfais ddiogelwch all achub bywydau drwy ddiffodd y pŵer yn syth).
  2. Peidiwch byth â gosod canhwyllau’n agos at eich coeden Nadolig, dodrefn neu lenni. Peidiwch â’u gadael yn cynnau os nad oes rhywun yn yr ystafell.
  3. Gwnewch yn siŵr fod eich teulu ac ymwelwyr sy’n aros gyda chi dros gyfnod yr ŵyl yn gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng. Cofiwch ymarfer cynllun dianc o’r adeilad.
  4. Gall addurniadau losgi’n hawdd – Peidiwch â’u gosod ar oleuadau neu wresogyddion.
  5. Diffoddwch offer trydanol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, os nad ydynt wedi eu cynllunio i aros ymlaen.
  6. Cymerwch ofal arbennig gyda goleuadau Nadolig. Diffoddwch y goleuadau a thynnu’r plwg o’r soced cyn mynd i’r gwely. Rydym yn defnyddio mwy o eitemau trydanol yn ystod y Nadolig – peidiwch â gorlwytho socedi a phlygiau ond defnyddiwch socedi lluosog ar lid sydd â’r ffiws priodol ar gyfer mwy nag un offer.
  7. Mae’r mwyafrif o dannau’n digwydd yn y gegin – peidiwch byth â gadael yr ystafell tra mae bwyd yn coginio. Dathlwch y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn ddiogel. Mae’r risg o ddamweiniau, yn arbennig yn y gegin, yn uwch wedi yfed alcohol.
  8. Os ydych chi’n bwriadu dathlu gyda thân gwyllt, storiwch hwy mewn bocs metel, darllenwch y cyfarwyddiadau, peidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt sydd wedi ei oleuo a chadwch fwced o ddŵr wrth law.
  9. Gwnewch yn siŵr fod sigarennau wedi eu diffodd yn llwyr.
  10. Gwiriwch y batri yn eich larymau mwg bob wythnos a defnyddiwch y Nadolig fel adeg i’ch atgoffa i’w glanhau a chael gwared â llwch.
  11. Gwnewch yn siŵr fod canhwyllau, tanwyr a matsis allan o gyrraedd plant.
  12. Gwnewch amser i gadw golwg ar berthnasau a chymdogion hŷn y Nadolig yma – gwnewch yn siŵr eu bod hwy’n ddiogel rhag tân hefyd, yn ogystal â meddwl am eu lles.