
Cariad at iaith
A hithau’n ddiwrnod Santes Dwynwen yfory (Dydd Sadwrn, Ionawr 25) rydym yn gofyn i bobl ddangos cariad tuag at yr iaith a defnyddio ein gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael bob dydd o’r flwyddyn.
Rydym yn cefnogi ymgyrchoedd drwy gydol y flwyddyn i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, a hynny ym mhob agwedd o fywyd. Mae’r ymgyrchoedd yn anelu at godi hyder, ac at gynyddu’r defnydd o wasanaethau Cymraeg, gan wireddu’r weledigaeth o Gymru lle gall pobl fyw yn Gymraeg.
Dywedodd Aled Davies, ein Pennaeth Llywodraethu: “Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni’n gallu cynnig ein gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae nifer fawr o bobl yn defnyddio ein gwasanaethau ar-lein, dros y ffôn a wyneb yn wyneb yn yr iaith, ond rydym yn dymuno hyrwyddo’r sianeli hyn er mwyn annog rhagor o bobl i’w defnyddio.
“Rydym yn gweithredu ar draws rhan helaeth o siroedd y Gogledd, yn arbennig yng Ngwynedd, felly mae darparu gwasanaethau Cymraeg o’r radd flaenaf yn rhan bwysig o’n diwylliant a sicrhau bod ein trigolion a chwsmeriaid yn gallu derbyn gwybodaeth yn eu dewis iaith.
“Mae 98% o’n staff yn siarad Cymraeg ac rydym wedi ymrwymo yn ein cynllun iaith i gynyddu defnydd o’r gwasanaethau.
“Rydym hefyd yn falch o allu gweithredu er mwyn cyfrannu i’r ymgyrch genedlaethol gan Lywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hi’n hynod o bwysig bod ein tenantiaid yn gwybod eu hawliau o ran disgwyl gwasanaeth gennym yn Gymraeg. Mae hi’n gyfrifoldeb arnom ni i gyd i chwarae ein rhan”.