Lluniau tai newydd ar stad Plas Newydd

Cartrefi fforddiadwy ym Mhrestatyn yn cwblhau o flaen amser

Mae Castle Green Partnerships bron â chwblhau datblygiad Plas Newydd ar ran y gymdeithas dai Adra, gyda dim ond arwyneb terfynol y ffyrdd i’w wneud. Mae’r datblygiad wedi darparu cymysgedd o gartrefi dwy, tair a phedair ystafell wely, a naw byngalo, ar safle 8.55 erw ym Mhrestatyn. Caiff y cartrefi eu hadeiladu i radd “A” Tystysgrif Perfformiad Ynni ac maent yn cynnwys paneli PV. Ynghyd â’r cartrefi ynni effeithlon mae’r datblygiad yn cynnwys erw a hanner o fannau agored cyhoeddus gyda phlanhigion i gyfoethogi’r cynefin i fywyd gwyllt. Mae blychau adar ac ystlumod yn rhan o lawer o’r cartrefi.

Eglurodd cyfarwyddwr y partneriaethau, Eoin O’Donnel: “Mae’r angen am dai fforddiadwy yn ardal Prestatyn yr uchaf yn Sir Ddinbych.  Dechreuodd y gwaith ar y safle ym mis Mehefin 2022 a disgwylir i’r gwaith adeiladu gymryd 30 mis. Diolch i waith caled ac ymroddiad ein tîm adeiladu mae pob un o’r 102 o gartrefi newydd wedi’u cwblhau a’u trosglwyddo i Adra mewn dim ond 20 mis.

“Mae’r datblygiad hwn yn enghraifft wych o sut y gall ein model Partneriaeth o weithio gyda chymdeithasau tai, trwy gytundebau pecyn tir ac adeiladu, wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau drwy helpu i fynd i’r afael â’r prinder tai. Mae demograffeg y rhai sydd angen tai fforddiadwy yn sector o gymdeithas sy’n ehangu o hyd. Mae’n hanfodol bod cyflenwad digonol o dai fforddiadwy yng Ngogledd Cymru i leddfu problemau gyda rhai tai rhent preifat is-safonol a llety gwely a brecwast anaddas a galluogi pobl i aros yn eu cymunedau lleol a gwneud eu cartrefi parhaol yma.”

Daw’r gwaith o gwblhau’r cartrefi ym Mhlas Newydd wrth i Castle Green Partnerships o Lanelwy ddatgelu ei fod wedi cyrraedd y garreg filltir o gael ei gontractio i ddarparu mwy na mil o gartrefi fforddiadwy ar draws Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.

Am ei rôl yn goruchwylio gwaith ym Mhlas Newydd, cafodd Tom Macbryde, rheolwr y safle, ei enwi’n Gweithiwr Adeiladu Preswyl y Flwyddyn yng Ngwobrau LABC Cymru 2023.

 

Bydd Adra yn sicrhau bod 46 o’r cartrefi ar gael i’w rhentu’n gymdeithasol, gyda chost rhentu yn gysylltiedig ag incwm lleol. Bydd y 56 eiddo sy’n weddill ar gael am rent canolradd, sydd fel arfer 20% yn is na’r rhent preifat y byddai tenantiaid yn ei dalu i landlord preifat am eiddo tebyg yn yr ardal.

Dywedodd Owen Bracegirdle, uwch reolwr prosiect gydag Adra: “Rydym wrth ein bodd bod gwaith wedi’i gwblhau ar yr eiddo newydd sbon, wedi’i gyflawni mewn partneriaeth â Castle Green Homes. Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarn i ddarparu cartrefi o safon y gall pobl fod yn falch ohonynt ac mae galw clir am dai fforddiadwy ym Mhrestatyn ac ardal ehangach Sir Ddinbych.  Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r tenantiaid newydd i’r cartrefi newydd sbon dros yr wythnosau nesaf a’r gwaith ar y safle yn cael ei gwblhau.”

I gofrestru ar gyfer y cartrefi rhent cymdeithasol gweler Ymgeisio am dai cymdeithasol | Cyngor Sir Ddinbych (denbighshire.gov.uk)

neu i gael gwybod am y gwasanaethau canolradd cofrestr eiddo rhent gyda Tai Teg www.taiteg.org.uk.