Cartrefi newydd fforddiadwy ar gael i bobl leol yn Llai
Mae dros 90 o dai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu gennyn ni, Adra, mewn partneriaeth â chwmni Anwyl a Bellway yn ardal Llai, Wrecsam.
Bydd y datblygiad yn darparu cartrefi fforddiadwy un, dwy a thair ystafell wely ar gyfer bobl leol yn yr ardal. Mae gennyn ni dros 6,300 o gartrefi yn barod ac rydym yn cynnig gwasanaethau i dros 14,000 o gwsmeriaid. Bydd y cartrefi sy’n cael eu hadeiladu yn Llai ar gael ar sail cynllun Rhent Canolraddol neu Rhanberchnogaeth rhwng 2020 a 2023 ac fe fydd dros 10 ohonynt ar gael rhnwg 2020-2021.
Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau yn Adra:
“Rydym yn gymdeithas dai sy’n canolbwyntio ar ddarparu cartrefi o ansawdd dda a gwasanaethau gwych i’n cwsmeriaid. Rydym yn edrych ymlaen at weld teuluoedd yn symud mewn i’r cartrefi bendigedig yma.
“Rydym yn ymfalchio yn ein ymrwymiad i gwrdd â’r angen tai yng ngogledd Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at roi’r goriadau i’r bobl a fydd yn byw yn y tai gwych yma.
“I ddatgan eich diddordeb, bydd angen i chi gofrestru hefo cofrestr Cartrefi Fforddiadwy Tai Teg. Mae gwefan Tai Teg taiteg.org.uk yn cynnwys yr holl wybodaeth am wahanol gynlluniau tai sydd ar gael. Bydd angen i chi edrych ar eu gwefan er mwyn gweld os ydych yn gymwys am dŷ fforddiadwy, boed hynny’n dŷ rhent neu rhanberchnogaeth.
“Bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried yn nhrefn dyddiad cofrestru, felly mae angen sicrhau eich bod yn cofrestru eich diddordeb mor fuan â phosib ”.
Bydd digwyddiad rhannu gwybodaeth am y cartrefi yn cael ei gynnal yn fuan yn Wrecsam, ac yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb cael mwy o wybodaeth am y tai yn Llai.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch hefo ni: 0300 123 8084 / ymholiadau@adra.co.uk
Cymerwch olwg ar bamffled Llay