Casglu bron i £1,500 i Ambiwlans Awyr Cymru
Rydym wedi casglu bron i £1,500 ar gyfer ein elusen y flwyddyn, Ambiwlans Awyr Cymru.
Dywedodd Rheolwr Codi arian Ambiwlans Awyr Cymru, Lynne Garlick: “Diolch yn fawr i staff Adra am eu cyfraniad arbennig. Pob blwyddyn, rydym angen casglu £6.5 miliwn i gynnal y gwasanaeth yma sy’n achub bywydau. Dim ond drwy garedigrwydd pobl Cymru y gallwn barhau i safio bywydau 365 diwrnod y flwyddyn. Mae bob taith ar gyfartaledd yn costio £1,500, felly mae pob cyfraniad gwirioneddol yn gwneud gwahaniaeth. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.”
“Cafodd y penderfyniad i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru ei wneud gan ein staff, sy’n flynyddol yn dewis drwy bleidlais pa elusen i gefnogi pob blwyddyn. Cafodd yr elusen ei dewis oherwydd y gwasanaeth hanfodol maent yn darparu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel Gwynedd. Mae nifer o’n staff, neu deulu a ffrindiau wedi dibynnu ar y gwasanaeth. Cafodd nifer o syniadau casglu arian a’r gwaith trefnu ei wneud gan staff a dwi’n hynod o falch o’u hymdrechion.”