Cawsom amser gwych yn Sioe Meirionydd eleni!
Dyma’r ail dro i ni fynychu’r sioe amaethyddol yma, ac roedd yn wych gweld cymaint o wynebau cyfarwydd a chwrdd â rhai newydd. Cawsom sgyrsiau bendigedig gyda’n tenantiaid, y gymuned leol, a rhanddeiliaid amrywiol.
Un o’r rhannau gorau oedd rhoi seibiant i rieni tra roeddem yn diddanu eu plant gyda gweithgareddau hwyliog. Mae’r lliwio a’r connect4 bob amser yn boblogaidd!
Mae bod mewn digwyddiadau fel hyn mor bwysig i ni. Mae’n ein helpu i aros yn gysylltiedig â’n cymuned ac yn dangos ein bod yma ar eu cyfer.
Roedd hefyd yn gyfle gwych i arddangos ein hadroddiad Gwerth Cymdeithasol newydd. Dyma’r ail dro i ni baratoi’r adroddiad yma hefyd, ac roeddem yn gyffrous i’w gyflwyno yng Nghorwen.