Cefnogi rhieni mewn cyfnod o galedi ariannol
Mae nifer o deuluoedd yng Ngwynedd wedi eu heffeithio mewn sawl ffordd oherwydd Coronafeirws. Un o’r ffyrdd hynny wrth gwrs ydi’r effaith ariannol.
Rydan ni wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth hefo Grŵp Cynefin, Cyngor Gwynedd, Mantell Gwynedd, Barnardos a Magnox mewn ymateb i hynny ac wedi sicrhau arian i ddarparu pecynnau pwrpasol i deuluoedd yn ardal Arfon a Dwyfor – sef Bocsys Babi sy’n cynnwys clytiau a weips pwrpasol.
Rydan ni wedi bod yn cydweithio ar gynllun i gefnogi teuluoedd sydd hefo plant ifanc drwy ddarparu ‘Bocsys babi’ iddynt. Mae’r Cynllun yn cael ei ariannu ar y cyd gennyn ni sef Adra a Grŵp Cynefin, ac wedi denu nawdd ychwanegol gan Magnox a thrwy gronfa Comic Relief sy’n cael ei weinyddu gan Mantell Gwynedd.
Mae ein tîm Rhent wedi bod yn cyfeirio eu tenantiaid sydd yn wynebu caledi ariannol ymlaen ar ei gyfer.
Mae Charlotte, Swyddog Cyswllt Cymunedol yma yn Adra wedi bod yn trefnu i Swyddogion Cyswllt Cymunedol Adra ddosbarthu’r bocsys i’r teuluoedd sydd mewn angen.
Dywedodd Sarah Schofield, ein Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau:
“Rydw i mor falch o weld sefydliadau Gwynedd yn dod at ei gilydd er mwyn helpu teuluoedd mewn angen yn ystod cyfnod heriol iawn.
“Mae’r nwyddau sydd ar gael yn y bocsys yn bethau hanfodol i deuluoedd ifanc a rydym yn falch ein bod yn gallu bod o help iddynt gan fod ein tenantiaid yn ganolog i bopeth yr ydym yn wneud.”
Dywedodd Mair Roberts o Grŵp Cynefin:
“Mae’n bosib i deulu gael dewis o bedwar pecyn gwahanol, yn cynnwys napis cotwm all gael eu golchi ai hail ddefnyddio,” .
“Mae’r prosiect yn anelu i gynorthwyo 100 o deuluoedd ac yn yr wythnos gyntaf roeddem wedi
helpu 25 teulu.”
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet materion Plant a Theuluoedd Cyngor Gwynedd:
“Mae’n sicr fod y deunyddiau yma wedi bod o fudd mawr i deuluoedd newydd yn ystod cyfnod dyrys ac mae’n enghraifft arall o gydweithio arbennig gan amlygu’r hyn y gallwn ei gyflawni wrth gyd-dynnu efo’n partneriaid. Diolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm gyda’r cynllun gwerthfawr yma.”