Chwalu stigma am iechyd meddwl ymysg pobl ifanc
Rydan ni yn Adra wedi cydweithio hefo partneriaid i drefnu a chynnal Diwrnod Lles i ddisgyblion Ysgol Godre’r Berwyn yn Y Bala yn ddiweddar.
Hybu lles meddyliol a chorfforol pobl ifanc ardal Y Bala, disgyblion blwyddyn wyth a naw Ysgol Godre’r Berwyn oedd bwriad y diwrnod lles a drefnodd ein tîm Cymunedol.
Yng ngwersyll yr Urdd Glan Llyn cafodd y diwrnod ei gynnal, gyda sesiwn canŵio, cwrs rhaffau a sesiwn lles a meddylgarwch.
Bwriad y diwrnod oedd codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl a hybu dealltwriaeth o’r mater, gan leihau stigma. Rydym yn gweld gwerth mewn gwneud hyn hefo pobl ifanc.
Daeth ein partneriaid i gefnogi’r diwrnod hefyd gan gynnwys Yr Heddlu, Gwasanaeth Tan, Swyddog iCan Tan y Maen, Yr Urdd a nifer o’n staff gan gynnwys Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau Adra, Sarah Schofield a gyflwynodd tystysgrifau i’r disgyblion ar ddiwedd y dydd. Dywedodd Sarah Schofield:
“Dwi mor falch ein bod ni yn Adra yn gallu rhoi cyfle i godi ymwybyddiaeth a dechrau’r sgwrs angenrheidiol am iechyd meddwl hefo pobl ifanc a’u hannog i siarad a chwalu’r stigma sydd o amgylch iechyd meddwl. Diolch i’n partneriaid am fod yn rhan o’r digwyddiad yma ac i Gareth Morris Construction am gyfrannu at y diwrnod.
“Dwi wedi mwynhau bod yma heddiw, rydym yn falch o fod yn gymdeithas dai sydd yn adnabod ac yn ymfalchïo yn ein cymunedau a lles y bobl o fewn y cymunedau hynny.”
Dywedodd Bethan Emyr, Pennaeth Ysgol Godre’r Berwyn:
“Diolch yn fawr am drefnu a chyd-gordio Diwrnod Iechyd Meddwl yng Nglan-llyn. Roedd pob un o’n disgyblion wedi mwynhau ac yn llawn straeon am eu diwrnod.
“Mae wedi bod yn braf cael cyswllt hefo chwmni Adra a gobeithio y gallwn barhau’r cyswllt er mwyn rhoi profiadau o’r byd go iawn i’n dysgwyr, a rhoi cyfleoedd iddynt gwrdd â phobl wahanol. Diolch.”
Cafwyd cyflwyniadau am y cyfleoedd gwaith a datblygiad sydd gan Adra yn ystod y diwrnod hefyd fel rhan o’u rhaglen cyflogaeth a sgiliau, Academi Adra.
Fe gafodd y diwrnod yma ei ariannu gan Gareth Morris Construction, sy’n gontractwr sy’n adeiladu nifer o ddatblygiadau tai fforddiadwy Adra, er mwyn cyfarch yr angen tai lleol. Hoffai Adra ddiolch i’r cwmni am fod yn barod i roi’n ôl i’r gymuned leol.