Tai Cefnogol
Mae gennym 8 safle Tai Cefnogol ar draws Arfon a Meirionnydd ac un safle yn Llanelwy.
Mae Swyddog ym mhob safle i helpu ein tenantiaid fyw’n annibynnol.
Pwy sy’n cael byw mewn Tai Cefnogol?
Unrhyw un sydd:
- dros 55
- yn anabl
ac sydd angen y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan ein Swyddog Tai Cefnogol.
Sut i wneud cais am Dai Cefnogol
- os ydych eisiau sgwrs am safle penodol, y costau a gwasanaethau, cysylltwch efo ni
- os ydych eisiau gwneud cais, cysylltwch efo’r Tîm Opsiynau Tai
Gwasanaethau ar gael mewn Tai Gwarchod
- byddwn yn gwneud cyswllt gyda chi hyd at 3 gwaith yr wythnos, yn dibynu ar staffio. Gall hyn fod yn gymysgedd o ymweliadau neu alwadau ffôn.
- eich helpu i’ch cyfeirio at asiantaethau eraill fel Age Cymru, Cyngor ar Bopeth, addasiadau a Gwasanaethau Cymdeithasol
- pecyn cymorth sydd yn addas i’ch anghenion
- gosod llinell argyfwng 24 awr y dydd
- byddwn yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol yn aml, naill ai ar y safle neu oddi ar y safle i helpu frwydro yn erbyn ungirwydd.
Ni fydd ein Swyddogion Tai Gwarchod yn gwneud pethau fel siopa, coginio, glanhau a gofal personol.
Cofiwch y gallwch dderbyn y gwasanaeth yma os nad ydych yn byw yn un o’n Tai Gwarchod.
Darllenwch fwy am hyn ar ein tudalen Gwasanaeth Tai Gwarchod yn y gymuned
-
Bro Llywelyn, Penrhyndeudraeth
Cyfleusterau’r Fflat
- ystafell fyw fawr
- cegin
- un, dwy ac (un) tair ystafell wely
- ystafell ymolchi gyda chawod cerdded i mewn/ ystafell wlyb
- system wresogi nwy
Cyfleusterau’r safle
- lifft
- ystafell fyw gymunedol
- cegin gymunedol
- gardd gymunedol
- storfa ar gyfer sgwter
- Teledu Cylch Cyfyng
- swyddog cefnogi Tai Gwarchod a opsiwn i osod larwm argyfwng
- system mynediad electronig
- ystafell golchi dillad
- parcio ar y safle
-
Cysgod y Coleg, Y Bala
Cyfleusterau’r fflat
- ystafell fyw fawr
- cegin
- un neu ddwy ystafell wely
- ystafell ymolchi gyda chawod cerdded mewn ac ystafell wlyb
- system wresogi nwy
Cyfleusterau’r safle
- lifft
- tŷ haul
- ystafell fyw gymunedol
- cegin gymunedol
- gardd gymunedol ac ardal eistedd tu allan
- lle cadw sgwter
- Swyddog Tai Cefnogol a opsiwn i osod larwm argyfwng
- Teledu Cylch Cyfyng
- system mynediad electronig
- ystafell golchi dillad
- parcio ar y safle
Gweithgareddau ar y safle
- bore coffi
- clwb cinio
- gwasanaeth crefyddol misol
-
Pentre Uchaf, Dyffryn Ardudwy
Cyfleusterau’r fflat
- ystafell fyw braf
- cegin
- un, dwy ystafell wely
- un fflat tair ystafell wely
- ystafell ymolchi gyda chawod cerdded i mewn/
- ystafell wlyb
- system wresogi canolog olew
Cyfleusterau’r Safle
- lifft
- ystafell fyw gymunedol
- cegin gymunedol
- gardd gymunedol a lle eistedd tu allan
- Swyddog Cefnogi Tai a opsiwn i osod larwm argyfwng
- TCC
- system mynediad electroneg
- parcio ar y safle
-
Hafan Deg, Abermaw
Cyfleusterau’r Fflat
- ystafell fyw braf
- cegin
- un neu dair ystafell wely
- un fflat tair ystafell wely
- ystafell ymolchi gyda chawod cerdded i mewn /
- ystafell wlyb
- system wresogi nwy
Cyfleusterau’r Safle
- WIFI Cymunedol
- ystafell fyw gymunedol
- cegin gymunedol
- gardd gymunedol
- lle cadw sgwter
- Swyddog Cefnogi Tai a opsiwn i osod larwm argyfwng
- TCC
- system mynediad electroneg
- ystafell olchi dillad
- parcio ar y safle
Gweithgareddau ar y safle
- bore coffi
-
Cae Catrin, Penygroes
Cyfleusterau’r Fflat
- ystafell fyw
- cegin
- un neu ddwy Ystafell wely
- ystafell ymolchi cerdded i mewn / ystafell wlyb
- system wresogi nwy canolog
- gerddi unigol i fyngalos
- gardd gymunedol i fflatiau
Cyfleusterau’r safle
- gwasanaeth ein Swyddog Cefnogi Tai a opsiwn i osod larwm argyfwng
- parcio ar y safle (ychydig o lefydd)
- gweithgareddau ar ysSafle
- cinio wythnosol wedi ei drefnu gan Age Cymru
Mae Cae Catrin yn ymuno gyda gweithgareddau yn y neuadd gymunedol
-
Lôn yr Eglwys, Penygroes
Cyfleusterau’r Byngalos
- ystafell fyw
- cegin
- dwy ystafell wely
- ystafell ymolchi gyda chawod cerdded i mewn /
- ystafell wlyb
- system gwresogi nwy
- gerddi unigol
Cyfleusterau’r safle
- gwasanaeth ein Swyddog Cefnogi Tai a opsiwn i osod larwm argyfwng
- parcio ar y safle (ychydig o lefydd)
- gweithgareddau’r Safle
- ginio wythnosol wedi ei drefnu gan Age Cymru
- Mae Lôn yr Eglwys yn ymuno a’r neuadd gymunedol leol i gael gweithgareddau cymdeithasol
-
Bryn Llwyn, Penygroes
Cyfleusterau’r fflatiau a byngalos
- ystafell fyw
- cegin
- dwy Ystafell wely
- ystafell ymolchi gyda cawod cerdded i mewn/ ystafell wlyb neu fath
- system gwresogi nwy
- gerddi, gyda byngalos llawr gwaelod
- fflatiau eraill efo gerddi cymunedol
Cyfleusterau’r safle
- gwasanaeth ein Swyddog Cefnogi Tai a opsiwn i osod larwm argyfwng
- parcio ar y safle (ychydig o lefydd)
- cinio wythnosol wedi ei drefnu gan Age Cymru
-
Trem yr Wyddfa
Cyfleusterau’r byngalo
- ystafell fyw
- cegin
- dwy ystafell
- ystafell ymolchi gyda chawod cerdded i mewn/
- ystafell wlyb
- system wresogi nwy canolog
- gerddi unigol
Cyfleusterau’r safle
- gwasanaeth ein Swyddog Cefnogi Tai a opsiwn i osod larwm argyfwng
- parcio ar y safle (ychydig o lefydd)
Gweithgareddau’r Safle
- cinio wythnosol wedi ei drefnu gan Age Cymru
- mae Trem yr Wyddfa yn ymuno yng ngweithgareddau cymdeithasol y neuadd gymunedol