Gwasanaeth Tai Cefnogol yn y Gymuned
Rydym yn cynnig gwasanaeth i gwsmeriaid cymwys sy’n debyg i’r gwasanaeth wrth fyw mewn cynlluniau tai gwarchod ond drwy aros yn eu cartrefi eu hunain.
Bwriad y gwasanaeth yw i helpu cwsmeriaid i fod yn annibynnol cyn hired ag sy’n bosibl gan wella ansawdd eu:
-
bywyd
-
iechyd
-
lles
Cynnwys y gwasanaeth
Mae’r gwasanaeth tai cefnogol yn y gymuned yn cynnwys:
- ymweliadau cefnogol i’ch cartref. Ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener i wneud gwiriadau lles rheolaidd. Gall y Swyddog Tai Cefnogol roi cyngor a help ar nifer o bethau sy’n ymwneud â’r cartref
- cyswllt a chyfeirio at asiantaethau eraill fel gwasanaeth siopa neu lanhau
- cynllun Cefnogi Personol yn seiliedig ar anghenion sydd wedi eu hasesu
- opsiwn i osod system larwm argyfwng (lifeline). Rhaid cael llinell ffôn tŷ iddo weithio
- gwahoddiadau i wahanol weithgareddau yn eich Cynllun Tai Gwarchod agosaf neu sefydliadau cymunedol yn eich ardal fel bore coffi, clwb cinio, bingo, clwb celf, ymarfer corff o’r gadair a llawer mwy
Pwy sy’n gymwys i gael y gefnogaeth?
Rhaid i chi fod yn gwsmer i ni er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth yma. Bydd gofyn i chi gwrdd ag un neu fwy o’r meini prawf:
- rydych angen cefnogaeth
- rydych dros 55 mlwydd oed
- rydych yn anabl
Gwneud cais am y gwasanaeth
Os oes gennych ddiddordeb yn y Gwasanaeth Tai Cefnogol yn y Gymuned neu os ydych eisiau sgwrs anffurfiol gydag un o’n Swyddogion Tai Cefnogol:
Oes rhaid i mi dalu am y gwasanaeth?
Mae yna dâl wythnosol am Gwasanaeth Tai Cefnogol yn y Gymuned a Gwasanaeth Larwm Argyfwng ac bydd rhain yn cael ei godi ar wahân i’ch rhent.
Bydd gofyn i chi dalu tâl gwasanaeth am y gwasanaeth yma. Mae’r gost yn cynnwys:
- Gwasanaeth Larwm Argyfwng: £2.58 yr wythnos
- Gwasanaeth Swyddog Tai Cefnogol: £11.39 yr wythnos
Cewch wybod am unrhyw cynnydd yn y gost fis o flaen llaw.
Os ydych yn cael budd-dal tai neu gredyd cynhwysol (elfen budd-dal tai), bydd y Gwasanaeth Cefnogi Pobl eich Awdurdod Lleo lyn talu am y gwasanaeth drwy grant cefnogi pobl.