Contractwyr mewnol Adra yn adeiladu eu cartrefi cyntaf erioed – a gosod sylfeini ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol
Mae carreg filltir arbennig wedi’i chyrraedd yn hanes Cymdeithas Tai Adra – cwblhau’r ddau eiddo cyntaf erioed i’w hadeiladu gan ei chontractwr mewnol, Tîm Trwsio.
Y ddau dŷ ym Mro Pedr Fardd yng Ngarndolbenmaen oedd y rhai cyntaf i gael eu cwblhau gan Dîm Trwsio Adra, gyda gwaith datblygu pellach ar y gweill ar gynlluniau yn Ffordd Wynne, Blaenau Ffestiniog a Bro Infryn yng Nglasinfryn.
Mae eiddo Garndolbenmaen wedi’u hadeiladu i safonau diwydiant gyda phaneli solar a phympiau gwres ffynhonnell aer wedi’u gosod i wneud yr eiddo’n effeithlon o ran ynni.
Un o’r tenantiaid newydd yw Eleri Owen. Yn wreiddiol o Garndolbenmaen, roedd Eleri a’i mab yn rhentu llety preifat mewn rhan arall o’r pentref cyn iddynt lwyddo i gael yr eiddo hwn.
Dywedodd Eleri: “Rydym wedi ymgartrefu’n gyflym iawn yn ein cartref newydd, gyda chefnogaeth teulu. Mae’n ardal dawel a hyfryd iawn ac mae ymdeimlad gwirioneddol o gymuned yma. Mae’r tŷ yn gynnes ac yn glyd hefyd a heb fod ymhell o ysgol fy mab. Rydyn ni’n teimlo’n lwcus iawn.
“Roeddwn wedi bod yn chwilio am gartref newydd ers nifer o flynyddoedd ac wedi clywed am ddatblygiad newydd Adra. Yna mi gysylltais gyda’r cwmni a chyflwynais gais.
“Mae popeth yn berffaith, mae gen i gartref a gardd newydd sbon ac mae Adra wedi bod yn wych, yn delio â fy holl ymholiadau yn gyflym. Mae’n gwireddu breuddwyd.”
Dywedodd Paul Painter – Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Atgyweirio a Chynnal a Chadw: “Rydym wrth ein bodd i gael ein comisiynu gan dîm Datblygu Adra i wneud y gwaith ym Mro Pedr Fardd ac rydym bellach wedi cwblhau’r adeiladau newydd. Mae’r ymateb gan y perchnogion tai newydd wedi bod yn wych ac rydym yn falch o fod wedi darparu cartref o ansawdd y gallant fod yn falch ohono.
“Mae hwn wedi bod yn ddatblygiad blaenllaw i Dîm Trwsio gan ein bod wedi arwain ar y prosiect adeiladu newydd o’r dechrau i’r diwedd wrth ddefnyddio contractwyr lleol i wneud rhywfaint o’r gwaith a chefnogi cyflogaeth 10 o grefftau o fewn Trwsio ar wahanol gamau. Roedd gennym hefyd un prentis ar y safle drwy gydol gwaith Trwsio i ddatblygu eu sgiliau.
“Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ein Cynllun Corfforaethol i ddarparu cartrefi fforddiadwy o safon uchel a bydd llwyddiant y gwaith yng Ngarndolbenmaen yn caniatáu i ni barhau i fuddsoddi mewn datblygiadau gwledig ar raddfa fach. Mae Tim Trwsio yn cyflogi gweithlu medrus o’r economi leol ac mae prosiectau datblygu fel hyn nid yn unig yn darparu cyflogaeth o safon ond hefyd yn cyfrannu at yr economi leol drwy gadw’r bunt yn lleol.
“Mae gan Trwsio gynlluniau twf uchelgeisiol i gyflawni mwy o waith i Adra trwy gyflogi crefftwyr lleol, boed yn weithwyr neu fel isgontractwyr. Mae cyflawni gwaith o’r fath yn rhedeg ar wahân i’r isadran atgyweirio a chynnal a chadw, mae hyn yn sicrhau bod Adra yn dal i gyflawni lefelau uchel o foddhad a pherfformiad ar gyfer ein tenantiaid presennol o ran atgyweirio a chynnal a chadw.”