Creu mwy o gyfleoedd hyfforddiant a chymwysterau i’n cwsmeriaid a’n tenantiaid
Rydym wedi creu cwrs cyn cyflogaeth newydd wedi’i deilwra’n benodol i’n tenantiaid a’n cwsmeriaid.
Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’u partneriaid, Procure Plus, Busnes @ Llandrillo Menai i roi mwy o gyfleoedd i’n tenantiaid uwchsgilio ac ennill cymwysterau newydd. Y nod yw i unigolion sy’n denantiaid i ni ennill profiad gwaith, sgiliau a chymwysterau i roi cyfle iddynt fynd ar yr ysgol gyflogaeth ym maes cynnal a chadw ac adeiladu.
Gall hyd at 12 o bobl fanteisio ar y ddau gwrs sydd ar gael mewn Trwsio a Chynnal a Chadw neu Gontractio Cyffredinol, am ddim.
Dywedodd Elin Williams, Rheolwr Cymunedol a Phartneriaethau yma yn Adra:
“Rydym mor falch ein bod wedi gallu gweithio mewn partneriaeth â Procure Plus a Busnes@ Llandrillo Menai i greu cwrs yn benodol ar gyfer ein tenantiaid.
“Mae’n wych ein bod yn gallu darparu cyfle arall o dan Academi Adra, sef ein rhaglen cyflogaeth a sgiliau a lansiwyd gennym ym mis Chwefror eleni.
“Wrth i ni dyfu, rydyn ni eisiau creu cyfleoedd i’n pobl, gan ddechrau gyda’n cwsmeriaid. Drwy Academi Adra, ein nod yw creu cyfleoedd gwaith drwy ein cynlluniau lleoli a rhaglenni hyfforddeion, graddedigion a phrentisiaid ehangach, gan weithio gyda’n partneriaid a thargedu ein cwsmeriaid ar draws Gogledd Cymru sy’n wynebu heriau i gael mynediad i’r farchnad swyddi.”
Dywedodd Gareth Hughes o CIST:
“Rydym yn falch o fod yn rhan o’r bartneriaeth hon, a fydd yn gyfle i ddenu newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant adeiladu. Drwy’r cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn gallu dysgu ac ennill yr hyfforddiant a’r cymwysterau allweddol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Dywedodd Simon O’Donnell o Procure Plus:
“Mae cyfuno hyfforddiant achrededig a phrofiad gwaith gyda chwmni fel Adra a’u contractwyr- Wynne Construction, GMC, G H James a Williams Homes – yn gyfle gwych i gael troed yn y drws yn y diwydiant adeiladu. Ar ddiwedd y cwrs pythefnos hwn, gobeithiwn y bydd y cyfranogwyr yn barod i fanteisio ar y nifer o gyfleoedd a fydd yn codi yn y sector tyfu hwn dros y blynyddoedd nesaf.
Y contractwyr sy’n cymryd rhan yn y cynllun hwn yn ogystal â Tîm Trwsio Adra yw Wynne Construction, G H James, GMC a Williams Homes.
Y gofynion i’w hystyried i fynd ar y cwrs yw’r canlynol:
- bod yn denant i Adra, neu’n byw yn un o’n cartrefi
- dros 16 oed
- ddim eisoes yn gweithio mewn swydd adeiladu
- ymrwymo i deithio i fynychu’r hyfforddiant yn Llangefni a phrofiad gwaith ar ein safleoedd. Byddwn yn ceisio trefnu lleoliad profiad gwaith mor agos i’w gartref ag sy’n ymarferol bosibl.
I gofrestru eu diddordeb ar gyfer y cwrs, dylai tenantiaid gysylltu â Charlotte o Dîm Cynnwys y Gymuned Adra ar 0300 123 8084 neu cymunedol@adra.co.uk erbyn dydd Gwener, 13 Awst fan bellaf. Byddwn yn cynnig lle ar y cwrs ar sail y cyntaf i’r felin.
Ariennir y prosiect hwn gan CITBs On Site Experience Fund, a ddarperir yng ngogledd Cymru gan Procure Plus.