
Croesawu penderfyniad cynllunio ym Modelwyddan
Mae Adra, un o brif ddarparwyr tai fforddiadwy yng ngogledd Cymru, yn croesawu’r penderfyniad cynllunio ar gyfer 49 o dai fforddiadwy ym Modelwyddan i bobl leol.
Mae caniatâd cynllunio wedi’i roi i ddatblygu’r safle ger Maes Owen, Ffordd Abergele ym Modelwyddan i gynnwys 49 o gartrefi modern, gan gynnwys 42 o dai, 3 byngalo, a 4 fflat a fydd yn gymysgedd o gartrefi rhent cymdeithasol a rhent canolradd.
Yn dilyn y caniatâd cynllunio’r wythnos diwethaf, mae’r gwaith wedi’i gynllunio i ddechrau yn yr haf hwn.
Dywedodd Daniel Parry, Cyfarwyddwr Datblygu ac Asedau Adra: “Rydym yn falch bod y datblygiad hwn wedi cael caniatâd cynllunio, ac edrychwn ymlaen at weld y gwaith yn dechrau ar y safle.
“Mae cymaint o alw am dai fforddiadwy yn Sir Ddinbych a gogledd Cymru, sy’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol. Mae Adra wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ein Cynllun Corfforaethol i adeiladu cartrefi newydd y gall pobl leol fod yn falch ohonynt, sy’n ynni effeithlon, o ansawdd uchel ac yn fforddiadwy o ran rhent a chostau gwresogi.”
Y nod yw i’r cartrefi gael eu cwblhau erbyn gwanwyn 2027.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cartref rhent cymdeithasol cofrestrwch gyda SARTH: 01824 712911 / Ymgeisio am dai cymdeithasol | Cyngor Sir Ddinbych (denbighshire.gov.uk)
Os oes gan unrhyw un ddiddordeb yn yr opsiwn rhentu canolradd, mae angen iddynt gofrestru gyda Thai Teg: www.taiteg.org.uk