Cwestiynau Cyffredin Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
Mae’r rheolau am rentu cartrefi yng Nghyrmu yn newid ar 1 Rhagfyr 2022. Dyma Wybodaeth i’ch helpu ddeall mwy.
Beth yw’r Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016?
Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn gyfraith newydd gan Lywodraeth Cymru a ddaw i rym ar 1 Rhagfyr 2022.
Mae’r newidiadau hyn wedi’u cynllunio gan Lywodraeth Cymru ers peth amser ac wedi cael eu craffu a’u cefnogi gan sefydliadau tenantiaid fel TPAS Cymru a Shelter Cymru.
Beth yw pwrpas y ddeddf?
I’w gwneud yn haws ac yn symlach i landlordiaid a thenantiaid rhentu cartref yng Nghymru. Yn symleiddio cytundebau ac yn gwella cyflwr cartrefi rhent yng Nghymru. Bydd y newidiadau’n cynnig mwy o ddiogelwch a sicrwydd i denantiaid a landlordiaid.
Sut y byddaf yn cael mwy o sicrwydd?
Cynyddu sicrwydd – bydd angen rhoi chwe mis o rybudd cyn belled nad yw’r contract yn cael ei dorri.
Ar bwy y mae’r ddeddf yn effeithio?
Pob Landlord – Preifat a Chymdeithasol
Pob Tenant – Preifat a Chymdeithasol
Ai Adra fydd fy landlord o hyd?
Ia. Byddwch yn parhau i dderbyn yr un gwasanaeth tai gennym ni.
A fyddaf yn dal i gael fy ngalw’n denant?
Na fyddwch. mae’r Ddeddf wedi newid y term i ddeiliad contract.
A fydd yn rhaid i mi symud tŷ?
Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i chi symud tŷ. Nid yw eich hawl i aros yn eich eiddo yn cael ei effeithio.
Sut bydd yn effeithio arnaf fel tenant Adra?
Nid oes angen poeni. Byddwch yn gallu byw yn eich cartref o hyd, byddwch yn talu rhent o hyd a byddwn yn gwneud eich atgyweiriadau ac yn gofalu am eich ystadau a mannau cymunedol o hyd.
Bydd Adra yn cael ei adnabod fel ‘landlord cymunedol’, newid o’r term ‘landlord cymdeithasol’.
A yw’n mynd i gostio arian i mi?
Nac ydi.
A fydd fy rhent yn codi?
Na fydd. ni fydd hyn yn effeithio ar swm y rhent a dalwch. Byddwn yn parhau i gynyddu eich rhent yn unol â Llywodraeth Cymru.
A fydd fy mudd-daliadau llesiant yn cael eu heffeithio?
Na fyddant. Ni fydd unrhyw effaith ar eich budd-daliadau os ydych yn derbyn rhai.
Beth yw contract meddiannaeth?
Dyma’r enw newydd ar eich cytundeb tenantiaeth.
Pryd fyddaf yn derbyn fy nghontract meddiannaeth?
Bydd tenantiaid presennol yn derbyn y contract meddiannaeth o fewn chwe mis o 1 Rhagfyr 2022 yn lle eich Cytundeb Tenantiaeth.
Ni waeth pryd y byddwch yn derbyn eich contract, bydd y Ddeddf yn berthnasol i bawb o 1 Rhagfyr 2022.
A oes angen i mi lofnodi’r contract?
Nac oes. NID oes angen i chi lofnodi’r contract. Nid yw’r datganiad ysgrifenedig yn gontract newydd, mae’n ddatganiad ysgrifenedig (copi ysgrifenedig) o delerau ac amodau presennol eich cytundeb tenantiaeth, sy’n ymgorffori ychwanegiadau a/neu newidiadau sy’n ofynnol gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
A oes angen i mi wneud unrhyw beth?
Yr unig beth y bydd angen i chi ei wneud yw darllen eich contract pan fyddwch yn ei dderbyn ac ymgyfarwyddo â’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau. Cadwch ef yn ddiogel fel y gallwch gyfeirio ato pan fydd angen.
Byddwn yn anfon datganiad ysgrifenedig (copi ysgrifenedig) o’u contract at denantiaid presennol Adra o fewn chwe mis o 1 Rhagfyr. Bydd tenantiaid newydd Adra (deiliaid contract) yn llofnodi’r contractau meddiannaeth o 1 Rhagfyr yn y ffordd arferol ar ddechrau eu tenantiaeth (contract).
A fyddaf yn gallu cael tenantiaeth ar y cyd?
Byddwch. Mae’r gyfraith newydd yn ei gwneud yn haws ychwanegu at neu ddileu eraill o’r contract meddiannaeth gan na fydd angen terfynu un contract mwyach a dechrau un arall.
Os ydych yn denant ar y cyd. Byddwch bellach yn cael eich galw’n gyd-ddeiliad contract.
Hefyd, mae bellach yn llawer haws i berson dynnu ei hun oddi ar gontract, heb beryglu contract y person sy’n weddill.
A fydd y gwasanaethau tai a gaf yn cael eu heffeithio?
Na fyddant. Ni fydd unrhyw newidiadau i’r gwasanaethau tai a gewch o ganlyniad i’r gyfraith newydd.
Faint o rybudd sy’n rhaid i mi ei roi i Adra os ydw i am derfynu fy nhenantiaeth?
Mae’n rhaid i chi roi o leiaf bedair wythnos o rybudd ysgrifenedig i ni os dymunwch ddod â’ch contract i ben. Yr un peth â rŵan.
A allaf wneud cais am drosglwyddiad o hyd?
Bydd. Cysylltwch â’n tîm Gosod yn yr un modd i drafod trosglwyddiad.
A allaf drefnu cydgyfnewid o hyd?
Gallwch, ond rhaid ichi ofyn am ein caniatâd cyn i chi wneud hynny. Gelwir y broses hon yn ‘drosglwyddiad i ddeiliad contract diogel’ o dan y gyfraith newydd.
A oes gen i hawl i wneud gwelliannau i fy nghartref?
Mae gennych yr un hawliau o hyd i wneud gwelliannau i’ch cartref. Bydd angen ein caniatâd ysgrifenedig i wneud hynny cyn gwneud y gwaith. Efallai y bydd angen cymeradwyaeth cynllunio a rheoliadau adeiladu arnoch hefyd.
A fyddwch chi’n fy helpu os byddaf yn cael problemau gyda’m cymdogion?
Byddwn. Byddwn yn parhau i’ch helpu a’ch cefnogi os byddwch yn cael problemau gyda’ch cymdogion. Bydd pob contract meddiannaeth yn cynnwys amod ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall. Os bydd deiliad contract yn torri amod y contract hwn, gallwn gymryd camau.
A fydd yn haws i chi fy nhroi allan?
Na fydd. mae eich hawl i fyw yn eich cartref yn aros yr un fath. Gallwch ond cael eich troi allan os byddwch yn torri amodau eich contract megis ôl-ddyledion rhent difrifol neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Oes gen i ganiatâd i gael anifail anwes?
Oes. Os ydych yn cadw anifeiliaid, anwes, dylech sicrhau nad ydynt yn dod yn niwsans i’ch cymydog neu’r gymuned neu yn achosi difrod i’ch cartref. Gweler ein gwefan am ragor o wybodaeth am anifeiliaid nad ydym yn eu caniatáu. Bydd eich contract yn rhoi mwy o fanylion.
Beth sy’n digwydd i’m hawliau olynu?
Mae’r gyfraith newydd yn gwella eich hawliau olynu. Os ydych yn rhannu eich cartref, gall dwy olyniaeth bosibl ddigwydd e.e. priod ac yna aelod arall o’r teulu.
Mae hawl olynu newydd yn cael ei chreu, os yw’r gofalwr yn bodloni meini prawf penodol, gan gynnwys bod wedi bod yn byw gyda deiliad y contract am o leiaf 12 mis fel ei brif gartref.
Beth fydd yn digwydd os wyf eisoes wedi olynu i denantiaeth?
Rydym ni yn Adra wedi penderfynu darparu ‘llechen lân’ i bob deiliad contract sy’n trosi. Ni fydd unrhyw olyniaeth cyn 1 Rhagfyr 2022 yn cael ei gymeryd i ystyriaeth – byddwch yn cael y budd llawn o’r term olyniaeth sydd yn y Ddeddf.
A fyddaf yn gallu cael lletywr?
Byddwch, os ydych yn ddeiliad contract diogel mae gennych yr hawl o hyd i gael lletywr cyn belled nad yw hyn yn creu gorlenwi statudol. Bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw letywyr yn ysgrifenedig.
Mae’r Ddeddf Rhentu Cartrefi yn gwella cyflwr eiddo rhent. Sut y bydd hyn yn digwydd?
Mae’r gyfraith newydd yn nodi bod yn rhaid i bob eiddo fod yn ddiogel ac yn addas i bobl fyw ynddo. Nod y rheoliadau hyn yw sicrhau bod pob landlord yn cynnal a chadw eiddo yn briodol a’u bod yn ddiogel i fyw ynddynt.
Mae hyn yn cynnwys gosod larymau mwg gwifredig, synwyryddion carbon monocsid a phrofion diogelwch trydanol rheolaidd. Mae’r rhain i gyd yn bethau yr ydym ni yn Adra eisoes yn eu gwneud.
Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw bryderon am gyflwr eich eiddo, cysylltwch â ni.
A oes unrhyw le y gallaf gael mwy o wybodaeth am y newidiadau hyn?
Oes. Gwefan Llywodraeth Cymru:
Tenantiaid: mae cyfraith tai yn newid (Rhentu Cartrefi) | LLYW.CYMRU
Mae cyfraith tai yn newid: Rhentu Cartrefi Cymru | LLYW.CYMRU
Gallwch hefyd ddod o hyd i ganllaw Hawdd ei Ddarllen ar wefan Llywodraeth Cymru