Cydweithio hefo Tai Gogledd Cymru ar gynlluniau gwerth £3.8m ar gyfer tai fforddiadwy yng Nghonwy
Rydym yn cydweithio hefo Tai Gogledd Cymru ac wedi llunio cynlluniau i ddatblygu tai fforddiadwy newydd i’r safonau effeithlonrwydd ynni uchaf mewn menter ar y cyd i fodloni angen lleol am dai yn sir Conwy.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth am y tro cyntaf ar ddatblygiad Plas Penrhyn ac yn gofyn i drigolion lleol gyflwyno unrhyw gwestiynau am y cynllun cyn gweminar rithiol rhyngom ni a Tai Gogledd Cymru, i weld y cynlluniau a siarad drwy’r cynigion, am 7pm ar Ragfyr 9fed.
Mae cynllun Plas Penrhyn yn cynnwys wyth tŷ tair ystafell wely ac wyth tŷ dwy ystafell wely, pedair byngalo dwy ystafell wely ac un byngalo dwy ystafell wely hefo mynediad i gadeiriau olwyn, a pharcio penodol ar gyfer pob ty.
Bydd y cartrefi fforddiadwy newydd, gan gynnwys cartrefi i’w rhentu’n gymdeithasol, yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio paneli solar ecogyfeillgar, systemau awyru mecanyddol ac adfer gwres, yn ogystal â’r safon Passivhaus ddi-garbon uchaf, sy’n lleihau colli gwres, fel arfer yn lleihau costau gwresogi i breswylwyr hyd at 75%.
Bydd y datblygiad yn cynnwys gardd gymunedol lle gall trigolion dyfu eu bwyd eu hunain a mainc gymunedol gyfeillgar, gan helpu i fynd i’r afael ag unrhyw faterion yn ymwneud ag unigedd cymdeithasol ac unigrwydd.
Mae’r bartneriaeth wedi cyflwyno cais llwyddiannus i gael gafael ar gyllid gan Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru, sydd â’r nod o gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy ledled Cymru, yn ogystal â derbyn grant tai cymdeithasol ar gyfer cynllun Bae Penrhyn.
Dywedodd Daniel Parry, Cyfarwyddwr Datblygu Adra: “Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Tai Gogledd Cymru, gan gydweithio i gyfarch yr angen lleol am dai ac i ymateb i’r argyfwng tai cenedlaethol.
“Yn Adra, rydym yn agored i fusnes ac yn llwglyd i ddatblygu partneriaethau newydd arloesol a mentrau ar y cyd a fydd yn ein helpu i gynyddu ein galluoedd datblygu a darparu’r cartrefi carbon isel, wedi’u cynllunio’n dda ac o ansawdd da sydd eu hangen ar ein cwsmeriaid.”
Ychwanegodd Chris Wells, Rheolwr Datblygu Tai Gogledd Cymru: “Rydym yn hynod falch o fod yn gweithio gydag Adra ar y cyfle gwych hwn i gael tai fforddiadwy ym Mae Penrhyn, gan ehangu ar y tai fforddiadwy sydd ar gael gennyn ni yng Nghonwy.
Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Aelod Cabinet Tai a Rheoleiddio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Byddem yn annog trigolion lleol i gyflwyno unrhyw gwestiynau a fydd yn cael eu trafod yn ystod y gweminar rithwir gyda’r datblygwyr. Mae ymrwymiad Adra a Thai Gogledd Cymru i ddarparu cartrefi fforddiadwy newydd sy’n effeithlon o ran ynni yn cyd-fynd ag ymgyrch Llywodraeth Cymru i ddarparu cartrefi carbon isel cynaliadwy ledled Cymru erbyn 2030.”
I gyflwyno cwestiynau i’r gweminar ac i gael rhagor o wybodaeth am gynigion ar gyfer y cartrefi newydd ym Mae Penrhyn, anfonwch e-bost at: Cyfathrebu@adra.co.uk