Llun o ddiffoddwyr tân y tu allan i un o gartrefi Adra

Cydweithio i amddiffyn diogelwch tenantiaid

Rydym wedi cydweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ddiweddar i brofi ein hymateb ar y cyd i dân yn un o’n eiddo.

Defnyddiwyd tŷ sy’n cael ei baratoi ar gyfer tenantiaid ar gyrion Bangor i brofi sut y byddai’r ddau sefydliad yn ymateb i dân, pe bai un yn torri allan.

Ymgyfarwyddodd diffoddwyr tân â’n cynllun eiddo a lleoliad y prif gyflenwad nwy a thrydan, i’w cynorthwyo mewn unrhyw argyfwng bywyd go iawn.

Dywedodd Eilian Roberts, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gyfer Ardal y Gorllewin:

“Roedd hwn yn gyfle gwych i’n criwiau ddod i arfer â chynllun eiddo Adra ac ymarfer ein technegau chwilio.

“Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag Adra fel hyn i amddiffyn ein cymunedau.”

Meddai Gareth Roberts, Goruchwylydd Gweithrediadau (Cerbydau ac Offer): “Roedd cydweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn un o’n heiddo ym Mangor yn gyfle i ni gynnal a hybu perthnasau gwaith da.

“Roedd yn gyfle gwych i rannu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad i ganiatáu rheolaeth effeithlon o ddigwyddiadau tra hefyd yn nodi meysydd allweddol o fewn ein heiddo ar gyfer pethau fel lleoliad prif gyflenwad nwy a thrydan a gosodiadau lloriau.

“Bydd hyn yn ein helpu i leihau risgiau cyffredinol os bydd unrhyw ddigwyddiadau ein eiddo”.