Cyflogi mwy o Hyfforddai Tai
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn cyflogi 2 Hyfforddai Tai newydd eleni.
Mae’r cynllun llwyddiannus yma yn mynd am y drydedd mlynedd yn olynnol erbyn hyn a rydym yn edrych ymlaen i gael cynnig cyfleoedd unigryw i ddau unigolyn lwcus unwaith eto.
Felly beth yw Hyfforddai Tai?
Mae’r cynllun Hyfforddai Tai yn cael ei blethu fewn â rhaglen cyflogaeth a sgiliau Adra, sef Academi Adra.
Yma yn Adra rydym ni yn deall nad yw’r Brifysgol i bawb. Ond mae ffyrdd eraill o ddatblygu gyrfa lwyddiannus ym myd tai. Neu efallai eich bod awydd newid eich gyrfa yn llwyr, gall y cyfle yma agor llawar o ddrysau i chi.
Mae’r cynllun Hyfforddai Tai yn rhoi cyfle i ddau berson weithio gyda ni am gyfnod o ddwy flynedd gan gael blas o wahanol agweddau i’r busnes, er enghraifft:
- Rhent ac incwm
- Gosod
- Tai fforddiadwy
- Gwasanaeth cwsmer
- Datblygu busnes
- Cymunedol
- Bro
Yn ogystal ag astudio! Byddwch yn astudio tuag at cymhwyster CIH Lefel 2. Bydd y cwrs yn rhoi Sylfaen gwych i chi ac yn darparu dealltwriaeth sylfaennol o’r sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen i gael gyrfa ym myd tai. Pwy a wyr pa gyfleoedd a swyddi fydd ar gael gyda ni ar ddiwedd y cwrs.
Mae 4 person wedi cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus dros y 4 mlynedd ddiwethaf – dyma beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud am y profiad.
Gwneud Cais
Mae modd gwneud cais trwy ein Gwefan
Mae’r cynllun ar agor in unrhyw un dros 16 mlwydd oed.
Os hoffech fwy o wybodaeth neu sgwrs bellach, cysylltwch â ni a gofynnwch am Tamany Clwyd-Jones