Diogelu
Mae diogelu yn golygu amddiffyn plant ac oedolion rhag camdriniaeth neu esgeulustod.
Mae hefyd yn golygu dysgu pobl sydd o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a pheryglon.
Mae gennym ni gyfrifoldeb i amddiffyn grwpiau bregus ac ymdrin â honiadau, peryglon neu ddatgelu camdriniaeth neu esgelustod yn effeithiol.
Beth i’w wneud os ydych yn poeni am berson bregus
- Os oes yna sefyllfaoedd sy’n achosi pryder lle mae yna risg rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib
Os tu allan i oriau (5pm-9am) cysylltwch â Cyngor Gwynedd ar 01248 353 551 neu’r Awdurdod Lleol
perthnasol.
Neu os yw’n argyfwnch galwch y Gwasanaethau Brys ar 999.
Pwy gaiff ei ddiffinio fel bregus?
Oedolyn bregus yw rhwyun sydd yn 18 mlwydd oed neu hŷn:
- sydd angen gwasanaethau gofal y gymuned
- yn byw gyda problemau iechyd meddwl
- gyda problemau addysgol
- gyda anableddau
- sydd heb y gallu i edrych ar ôl eu hunain
- sydd ddim yn gallu amddiffyn eu hunain yn erbyn niwed neu cael eu ecsbloetio
Caiff ‘plentyn’ neu ‘berson ifanc’ ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun o dan 18 mlwydd oed.
Beth yw camdriniaeth?
Gall camdriniaeth ddigwydd mewn sawl ffordd (mae’n cynnwys camdrin yn digwydd mewn unrhyw le, tŷ preifat, sefydliad neu unrhyw le arall) gan gynnwys:
• Corfforol
• Rhywiol
• Emosiynol / seicolegol
• Economaidd ac ariannol – yn cynnwys cael arian neu eiddo arall wedi’i ddwyn; cael eich twyllo, cael eich rhoi dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall neu camddefnydd o arian neu eiddo arall.
• Esgeulustod
• Gwahaniaethol a / neu drosedd casineb
• Camdriniaeth yn y cartref
• Priodas orfodol
• Caethwasiaeth Fodern – gan gynnwys masnachu pobl, caethwasiaeth, caethwasiaeth plant, wedi dal mewn dyled, a llafur dan orfod neu lafur gorfodol
Mae diffiniadau llawn o bob math o gamdriniaeth wedi eu cynnwys yn ein Polisi Diogelu
Grwpiau Bregus. Cysylltwch â ni i gael copi.
Mae esgeulustod yn golygu – peidio a cyrraedd anghenion corfforol a/neu feddyliol sylfaenol person
ifanc neu oedolyn a all olygu nam difrifol i’w llesiant e.e amhariad ar iechyd unigolyn neu amhariad ar
ddatblygiad plentyn.
Adnabod camdriniaeth ac esgeulustod
Mae yna sawl arwydd o gamdriniaeth, bydd y rhain yn amrywio oherwydd y math o gamdriniaeth ac
esgeulustod.
• Efallai y bydd dioddefwyr camdriniaeth corfforol yn dangos tystiolaeth o grafiadau, cleisiau, llosgiadau a sgaldiadau.
• Efallai y bydd dioddefwyr camdriniaeth rywiol yn mynd yn fewnblyg, sef ei chael hi’n anodd cerdded
neu eistedd neu fod newid yn eu hymddygiad arferol.
• Efallai y bydd dioddefwyr emosiynol neu seicolegol yn dangos lefelau uchel o straen neu bryder, yn
hunan niweidio, yn dangos arwyddion o iselder neu eisiau sylw.
• Dangosyddion posib o gamdriniaeth ariannol neu economaidd yw diffyg eiddo fel dillad neu eitemau
personol fel ffôn symudol.
• Efallai y bydd dioddefwyr o esgeulustod yn dangos y canlynol – iechyd yn dirywio, brechau, doluriau, dillad anaddas neu gyflyrau iechyd sydd heb eu trin.
Mae rhestr llawn i’w cael yn ein rhestr lawn i’w cael yn ein polisi Diogelu Grwpiau Bregus. Cysylltwch â ni i gael copi.
Un o egwyddorion pwysicaf diogelu yw bod hyn yn gyfrifoldeb ar pawb.
Dim ein dyletswydd ni yw profi fod camdriniaeth neu esgeulustod ond mae’n ddyletswydd arnom i adrodd unryw bryder.
Ein dyletswydd ni
Byddwn yn cadw cyfrinachedd wrth ymdrin â materion o ddiogelu ond efallai by byddwn yn rhannu gwybodaeth gydag asantiaethau sy’n bartneriaid i ni, er enghraifft:
- Gwasanaethau Cymdeithasol
- yr Heddlu
- Asiantiaethau Camdrin yn y Cartref
Mae rhannu gwybodaeth berthnasol yn effeithiol rhwng pobl broffesiynol yn hanfodol er mwyn diogelu grwpiau bregus.
Byddwn yn cydymffurfio yn llawn gydag asiantaethau a phartneriaid eraill wrth ymdrin â materion diogelu