E-sgwteri, e-feiciau a Sgwteri Symudedd
Mae e-sgwteri, e-feiciau a sgwteri symudedd yn ddulliau poblogaidd o symud o gwmpas y dyddiau yma.
Dyma wybodaeth i’w defnyddio a cadw yn ddiogel.
-
E-sgwteri ac e-feiciau
Tân gaiff ei achosi gan e-sgwteri ac e-feiciau yw’r tân lle gwelir y cynnydd mwyaf.
Tra bod y rhain yn cynnig ffordd dda o deithio, os yw’r batris wedi difrodi neu’n dechrau dirywio, gallant gychwyn tân hynod o ffyrnig. Gall tanau batri lithiwm ledaenu allan o reolaeth yn sydyn, ac o fewn munudau ddechrau tân anferth.
Talwch sylw manwl i gitiau addasu beic. Peidiwch â cheisio addasu neu chwarae gyda’r batri. Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr bob amser.
Lleihau’r Risg o Orboethi
- Gall batris boethi pan maent yn cael eu defnyddio. Gadewch iddyn nhw oeri cyn ceisio ailwefru.
- Dylid gwefru batris bob amser ar arwynebau gwastad caled lle mae gwres yn gallu gwasgaru.
- Gall batris hefyd achosi perygl os ydynt wedi’u difrodi, felly, ceisiwch sicrhau nad ydynt yn cael eu taflu o gwmpas pan maent yn cael eu defnyddio neu gludo.
- Ni ddylid amlygu batris i dymheredd eithafol.
Lle i wefru eich batris
- Peidiwch â rhwystro llwybr dianc gydag e-feiciau neu e-sgwteri.
- Dylech eu storio a’u gwefru mewn rhywle sydd allan o ffordd y prif lwybr neu allanfa.
- Gwnewch yn siŵr bod gennych chi a’ch teulu gynllun dianc ar waith yn achos tân. Ffoniwch 999 bob amser, peidiwch â cheisio ymladd tân eich hun.
-
Sgwteri Symudedd
Mae Sgwteri Symudedd yn dod yn hynod o boblogaidd gyda phreswylwyr Llety Gwarchod a phreswylwyr Llety Anghenion Cyffredinol fel ei gilydd.
Os ydych eisiau gwneud cais ar gyfer storfa i’ch sgwter, rhaid cysylltu â ni i wneud cais.
Bydd cost o £72 y flwyddyn am hyn.
Mae storio Sgwteri Symudedd mewn ardaloedd cymunedol yn annerbynniol ac yn beryglus i holl drigolion oherwydd hwn fel arfer yw’r prif lwybr dianc.
Cyngor ar gadw Sgwteri yn ddiogel
- Cadwch ef mewn lle diogel, dim ar lwybr dianc
- Peidiwch a gadel eich sgwter i wefru dros nos
- Peidiwch ag atal allanfa dân gyda’ch sgwter
Os ydych yn meddwl am brynu neu brydlesu Sgwter Symudol, rhaid gwneud cais i ni yn gofyn am ganiatâd.
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac uchafu dewis ac annibyniaeth ac yn adnabod gwerth cymhorthion symudedd fel sgwteri symudol i denantiaid i gynnal eu hannibyniaeth. Rydym cyn belled ag sy’n ymarferol, yn cefnogi angen cwsmeriaid sydd eisiau defnyddio sgwteri symudol.
-
Diogelwch Bateri
Pa mor ddiogel yw’r bwrdd wrth y gwely? A ydych yn rhoi eich ffôn yno i wefru cyn amser gwely? Efallai eich bod yn mwynhau gwylio’r teledu ar eich gliniadur neu dabled yn y gwely – wedi’i blygio i mewn i gadw’r sgrin yn llachar, wrth gwrs? Gadewch i ni gymryd golwg fanylach ar faint ohonom sy’n defnyddio eitemau trydanol bob dydd.
Ydy batris yn beryglus?
Pan maent yn cael eu defnyddio yn gywir, na. Ond gall batris beri perygl tân pan maent wedi’u gor-wefru, y gylched wedi’i dorri, dan ddŵr neu os ydynt wedi’u difrodi. Mae’n bwysig eu gwefru yn ddiogel hefyd.
- Defnyddiwch y gwefrydd oedd yn dod gyda’ch ffôn, tabled, e-sigarét, neu ddyfais symudol bob tro.
- Os ydych angen newid y gwefrydd, prynwch gynnyrch brand, dilys gan gyflenwr dibynadwy. Mae llawer o gynnyrch ffug ar y farchnad, a gall fod yn anodd gweld y gwahaniaeth. Dylech osgoi storio, defnyddio neu wefru batris ar dymheredd uchel iawn neu isel.
- Dylech amddiffyn batris rhag cael eu difrodi – rhag cael eu gwasgu, rhag cael twll ynddynt neu rhag cael eu trochi mewn dŵr.
- Peidiwch â gadael eitemau ymlaen yn barhaus ar ôl cwblhau’r broses o wefru -er enghraifft mae’n well peidio â gadael eich ffôn wedi’i blygio mewn dros nos.
- Peidiwch â gorchuddio gwefryddion neu ddyfeisiau gwefru – mae hynny’n cynnwys defnyddio cebl trydan eich gliniadur yn y gwely.