Trosglwyddo Contract Diogel (Cyfnewid)

Trosglwyddo contract diogel yw pan mae dau denant neu fwy yn cytuno i gyfnewid eu tenantiaeth gyda chaniatâd eu landlord. Yn aml roedd hyn yn cael eu cyfeirio at fel ‘cyfnewid ar y cyd’ (Mutual Exchnage).

Gall tenant gyfnewid efo un tenant arall neu fwy.

Rhaid i bawb sy’n cyfnewid gael caniatâd ysgrifenedig gan eu landlord a wedi llofnodi’r holl ddogfennau cyfreithiol perthnasol cyn y trosglwyddiad. 

Os ydach chi’n symud cyn llofnodi’r gwaith papur cyfreithiol, ni fydd y trosglwyddiad yn ddilys a byddwn yn gofyn i chi symud yn ôl.

Pwy sy’n cael cyfnewid

  • Mae gan ddeiliaid contract diogel yr hawl i drosglwyddo eu contract i ddeiliad contract diogel arall, ond rhaid i chi ofyn am ein caniatâd yn gyntaf. (Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw eiddo rent marchnad, eiddo canolradd, neu eiddo Rhentu i Berchnogi).
  • Gyda’n caniatâd, gall deiliaid contract drosglwyddo eu contract i ddeiliad contract diogel arall o landlord cymunedol arall. Fel arfer, landlord cymunedol yw naill ai’r Cyngor lleol, neu gymdeithas dai (fel Grŵp Cynefin, Tai Gogledd Cymru neu ni)

Ddim yn siwr os oes gen ti Gontract Diogel?

Darllen mwy o wybodaeth am gontract diogel

Sut i gyfnewid

Os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo eich contract, fel arfer gallwch ddod o hyd i eraill i drosglwyddo gydag ar-lein, ar grwpiau cyfryngau cymdeithasol lleol ac ati.

Ar ôl i chi ddod o hyd i rhywun sydd eisiau trosglwyddo, gallwch ofyn am ganiatâd drwy lenwi ffurflen gais a’i dychwelyd atom.

Ffurflen caniatad trosglwyddo (word)

Ffurflen caniatad trosglwyddp (pdf)

Ar ôl i ni dderbyn y ffurflen gais, byddwn yn cynnal y gwiriadau perthnasol ar ein hochr ac yn cysylltu gyda chi o fewn mis gyda’n penderfyniad.

Pethau byddwn yn eu ystyried wrth wneud ein penderfyniad

  • Maint yr eiddo, a yw’n rhy fawr neu’n rhy fach.
  • Pa mor addas yw’r eiddo, gan gynnwys unrhyw addasiadau sydd wedi eu gwneud iddo.
  • Unrhyw broblemau parhaol gyda’r contract, megis unrhyw ôl-ddyledion rhent neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Cyflwr yr eiddo, ac a oes angen atgyweirio neu ddatrys unrhyw beth yn gyntaf.

Os hoffech fwy o wybodaeth am y broses, cysylltwch â ni.