Dod a’ch tenantiaeth i ben
I ddod a’ch tenantiaeth i ben, bydd angen i chi roi o leiaf pedair wythnos lawn o rybudd ysgrifenedig i ni gan gynnwys eich holl manylion cyswllt.
Dyma templed PDF y gallwch ei ddefnyddio.
Dyma templed Word y gallwch ei ddefnyddio.
Cyn i chi symud
Dyma restr o ychydig o bethau sydd angen i chi wneud cyn i chi symud allan:
- gadael i’n staff ddod i’ch cartref ar amser rhesymol i gynnal archwiliad
- talu rhent/taliadau
- gwneud yn siŵr bod cais Budd-dal Tai a gordaliadau wedi eu datrys
- clirio’r holl ddodrefn, ysbwriel, carpedi a phethau personol o’r cartref gan gynnwys yr atig
- clirio ysbwriel ac eitemau o’r ardd
- glanhau a brwsio’r eiddo
Rhestr Wirio
- Cymryd y darlleniadau olaf ar gyfer nwy, trydan a dŵr a gadael i’ch cyflenwyr wybod
- Datgysylltu’r ffôn, cysylltu efo’r cwmni ffôn i gael y cyfrif terfynol yn eich cyfeiriad presennol a threfnu gosod ffôn yn eich cyfeiriad newydd
- Dweud wrth eich darparwr band llydan a Sky eich bod yn symud
- Dweud wrth y cwmni Trwydded Teledu eich bod yn symud
- Cysylltu efo’r Post Brenhinol i drefnu bod eich post yn cyrraedd eich cyfeiriad newydd