Sgwteri Symudedd

Os ydych chi’n ystyried prynu neu logi sgwter symudedd, cymerwch olwg ar y cyngor yma.

Mae gwahanol fathau o sgwteri symudedd / cymorthyddion symudedd ar gael:

Dosbarth 1
Cadeiriau olwyn maniwal ydi rhain, felly nid ydynt yn cael eu hystyried fel sgwter symudedd

Dosbarth 2
Cadeiriau olwyn hefo pŵer, neu sgwter symudedd wedi eu dylunio hefo 3 /4 olwyn i ddefnyddio ar balmentydd sy’n teithio ar gyflymder o 4 milltir yr awr.

Dosbarth 3
Sgwter 4 olwyn hefo cyflymder uchaf o 8 milltir yr awr. Mae gan rhain olau, golau troi, golau rhybuddio,corn a drych edrych i’r tu ôl wedi ei osod yn fewnol neu allanol. Rhaid i chi gofrestru sgwter dosbarth 3 gyda Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

 

Rhestr wirio

Dyma bethau i chi ystyried cyn prynu neu logi sgwter symudedd. Allwch chi…

  • yrru sgwter symudedd yn ddiogel heb achosi perygl i unrhywun neu eich cartref
  •  ei gadw mewn cyflwr da
  • drefnu a thalu am y sgwter os yw’n torri
  • trefnu yswiriant rhag niwed personol, difrod i fannau mewnol ac allanol a niwed posib i eraill
  • drefnu praw PAT (Prawf Offer Cludadwy), blynyddol ar yr offer gwefru a darparu y ddogfen prawf fel tystiolaeth i ni
  • wneud yn siwr fod golau priodol ar y sgwter adefnyddio siaced adlewyrchol (high vis) a gosod bandiau adlewyrchol mewn mannau amlwg ar y sgwter

 

Mae nifer o broblemau diogelwch tan yn gallu digwydd oherwydd sgwteri symudedd, fel y rhain:

• Achosi rhwystrau mewn mannau cyffredin –  ni ddylid eu gadael mewn mannau cyffredin

• Rhwystro llwybrau dianc mewn eiddo tenantiaid

• Gwefru mewn llefydd amhriodol

Storfa Sgwter

Os ydych yn dymuno storfa diogel i gadw eich sgwter, cymerwch olwg ar y Cwestiynau yma…

Beth yw storfa sgwter?

Lle er mwyn cadw a gwefru (charge) sgwteri symudedd tenantiaid yn ddiogel.

Pwy all wneud cais am storfa sgwter?

  • Tenantiaid sydd yn byw mewn safle tai gwarchod neu fflatiau cyffredinol ac felly’n rhannu ardaloedd cyffredin a chynteddau
  • Tenant sydd á sgwter symudedd Dosbarth 2 neu 3
  • Tenant sydd ddim efo lle addas arall i gadw a gwefru’r sgwter symudedd

Sut i wneud cais am storfa sgwter?

Rhaid cwblhau ffurflen gais.

Unwaith y byddwn wedi derbyn eich ffurflen gais bydd eich cais yn cael ei asesu a byddwn yn cysylltu gyda chi wedyn gyda’r penderfyniad.

Ga i gadw pethau eraill a’r  sgwter symudedd yn  y storfa sgwter?

Na

Oes rhaid i mi dalu am storfa sgwter?

Oes. Y pris yw £72 y flwyddyn.

Byddwch angen goriad i’r storfa, os fyddwch yn colli hwn, bydd rhaid i chi dalu am copis ychwanegol

Be’ nesaf?

Os ydych wedi darllen trwy’r cyngor uchod ac yn meddwl y gallwch ddefnyddio  yn ddiogel heb achosi problemau mewn ardaloedd cymunedol, cysylltwch â ni.