Cynllun ar y cyd i atal digartrefedd yng Ngwynedd
Mae gwaith wedi dechrau ar safle segur, 137 Stryd Fawr Bangor, i ddatblygu’r adeilad i fod yn 12 o fflatiau gyda chefnogaeth i atal digartrefedd, diolch i gydweithio rhwng Cyngor Gwynedd, Adra a Tai Gogledd Cymru.
Oherwydd yr argyfwng tai lleol, wedi ei gyplysu â’r argyfwng costau byw cenedlaethol a sgil-effeithiau’r pandemig, gwelwyd cynnydd digynsail yn faint o bobl sy’n ddigartref yng Ngwynedd, gyda mwy na 600 o bobl yn y sir yn y sefyllfa dorcalonnus yma ar hyn o bryd.
Mae Adra, Cyngor Gwynedd a Tai Gogledd Cymru yn cydweithio ar y cynllun hwn nid yn unig er mwyn sicrhau cartref i unigolion sydd mewn angen ond hefyd i wneud yn siŵr eu bod yn cael y gefnogaeth hirdymor fel nad ydynt yn mynd yn ddigartref eto i’r dyfodol.
Adra sy’n arwain ar y datblygu, tra y bydd yr adeilad a’r gwasanaethau ategol yn cael ei reoli mewn partneriaeth gan Gyngor Gwynedd a Thai Gogledd Cymru. Bydd hyn yn cynnwys gwasanaeth ar-alw 24-awr a chefnogaeth i helpu pobl i gynnal tenantiaeth tymor-hir fel eu bod yn gallu symud ymlaen i lety arall a lleihau’r risg o golli eu cartref eto i’r dyfodol.
Bydd y prosiect yn cyfrannu’n sylweddol tuag at y nod o gael 38 o unedau llety â chefnogaeth drwy’r sir, fel rhan o Gynllun Gweithredu Tai’r Cyngor.
Ariannwyd y prosiect yn rhannol gan Llywodraeth Cymru wrth iddynt fuddsoddi £1.2 miliwn ac Adra a bydd yn dod â safle sydd wedi bod yn segur ers peth amser yn ôl i ddefnydd yng nghanol Stryd Fawr Bangor.
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Craig ab Iago:
“Mae sefyllfa dai yng Ngwynedd yn argyfyngus a hynny am nifer o resymau cymhleth, ac yn anffodus mae pobl gyffredin yn cael eu dal yn y canol heb unlle parhaol i fyw. Y llynedd daeth mwy na 1,000 o bobl atom am eu bod naill ai yn ddigartref neu yn debygol o fod yn ddigartref a rhoddwyd mwy na 500 o bobl mewn llety dros dro. Felly dwi’n hynod falch fod gwaith yn dechrau ar y prosiect yma fel un ffordd i fynd i’r afael a’r broblem.
“Dyma enghraifft dda o gydweithio ar draws y sector, rydw i’n falch o’r bartneriaeth gref mae’r tri sefydliad wedi ei sefydlu ac edrychaf ymlaen i weld hyn yn ffynnu.
“Yr elfen unigryw o’r cynllun hwn ydi’r ddarpariaeth gefnogol fydd ar gael i denantiaid wedi iddynt symud i fewn, er mwyn eu harfogi efo sgiliau allweddol i gynnal tenantiaeth fel nad ydynt yn cael eu hunain yn ddigartref eto i’r dyfodol.”
Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau Adra:
“Rydym mor falch o fod yn rhan o’r prosiect yma gan ddod at ein gilydd â’n partneriaid er mwyn cyfrannu at atal digartrefedd. Mae dechrau’r gwaith hollbwysig yma yn gam yn agosach at ddarparu llety a chefnogaeth i bobl sydd ei angen.
“Rydym hefyd yn falch o fuddsoddi mewn adeilad ar Stryd Fawr Bangor sydd wedi bod yn wag ers peth amser a rhoi defnydd pwysig i’r adeilad.
“Rydym wedi penodi Gareth Morris Construction i arwain ar y gwaith datblygu, mae cadw’r bunt yn lleol a chyfrannu at yr economi hefyd yn bwysig i ni fel cwmni masnachol sydd â chalon gymdeithasol.”
Dywedodd Allan Eveleigh, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymunedau Tai Gogledd Cymru:
“Mae Tai Gogledd Cymru yn falch o gydweithio gyda Cyngor Gwynedd a Adra ar y datblygiad pwysig yma, gan adeiladu ar y gwaith digartrefedd rydym eisioes yn darparu ym Mangor a’r cyffuniau.”