Cynnal gweithgareddau hwyliog i arbed unigrwydd ymysg pobl hŷn
Mae Aros Adra wedi llwyddo i ennill grant i gynnal gweithgareddau i arbed unigrwydd ymysg bobl hŷn.
Cyflwynodd Aros Adra gais grant i Mantell Gwynedd a Chronfa Unigrwydd ac Ynysigrwydd ac roeddent yn llwyddiannus. Mae Aros Adra yn cynnig cefnogaeth i bobl yn eu cartref ac yn ceisio lleihau unigrwydd. Mae Aros Adra yn cynnig y gwasanaeth i denantiaid ac i bobl eraill sydd ddim yn denantiaid Adra.
Y syniad ydi dod â chwsmeriaid Aros Adra at ei gilydd i gymdeithasu, gwneud ffrindiau newydd a chael mynd am dro i rywle gwahanol.
Dywedodd Elin Meirion, Swyddog Gwasanaethau Pobl Hŷn Adra:
“Mae llawer o gwsmeriaid Aros Adra’n byw ar ben eu hunain ac yn byw mewn ardaloedd ynysig, felly mae’n gallu bod yn unig iawn iddynt. Bwriad y gweithgareddau yma ydi hybu i’n cwsmeriaid gymdeithasu a gweld rhywbeth gwahanol ac o bosib gwneud ffrindiau hefo’i gilydd.”
Bydd gwasanaeth Aros Adra yn trefnu chwe trip, un y mis gan fynd i rywle gwahanol bob mis gan ddefnyddio’r arian grant fel bod pobl yn cael un trip y mis am ddim ac yn cael cyfle i leihau unigrwydd.
Cafodd y trip cyntaf ei gynnal wythnos diwethaf ac fe aeth cwsmeriaid Aros Adra ar drip hefo’i gilydd i ganolfan arddio Tyddyn Sachau.
Cafodd y cwsmeriaid gyfle i siopa a chael cinio yn y caffi. Roedd pawb wedi mwynhau ac wedi dod ymlaen yn dda iawn, mae rhai wedi rhannu rhifau ffôn ac am gysylltu â’u gilydd tu allan i’r gweithgareddau yma.
Y bwriad fis nesaf ydi mynd am drip I Lanfairpwll, Ynys Môn – ble fydd cwsmeriaid ardal Arfon hefyd yn cael cynnig. Am fwy o wybodaeth am Aros Adra, Cliciwch Yma