
Cynnig tystiolaeth gerbron Pwyllgor y Senedd
Cafodd Sarah Schofield, ein Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau gyfle i roi tystiolaeth gerbron cyfarfod o Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai’r Senedd ym Mae Caerdydd ddoe i drafod materion yn ymwneud â chymorth tai Llywodraeth Cymru i bobl agored i niwed.
Ymunodd Sarah gyda Rhea Stevens o Cartrefi Cymunedol Cymru a Claire Budden o Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, a rhoddwyd tystiolaeth mewn un o dair sesiwn a gynhaliwyd ar y mater.
Dywedodd Sarah: “Roedd yn brofiad gwych darparu tystiolaeth i bwyllgor y Senedd am bwnc mor bwysig. Gofynnwyd i ni am ein barn ar faterion fel ailgartrefu cyflym a’r rhaglen Tai yn Gyntaf, yn ogystal â mynd i’r afael â materion yn ymwneud â’r angen am dai, pobl sy’n byw mewn tai anaddas ac atal pobl rhag mynd i lety dros dro. Gofynnwyd i ni hefyd am ein barn ar strategaeth Llywodraeth Cymru ar fynd i’r afael â’r materion hyn.
“Fe wnaethom dynnu sylw at y ffaith bod cyllid hirdymor yn bwysig, bod creu cartrefi newydd hefyd yn bwysig, ond yr un mor hanfodol yw’r angen am gydweithio cryfach rhwng sefydliadau a diwylliant y cydweithio hwnnw. Mae angen i ni gael sefydliadau i’r un gofod a neilltuo amser i ddod o hyd i atebion gwell.
“Mae yna enghreifftiau da yng ngogledd Cymru o gydweithio gwych. Er enghraifft, prosiect 137 Stryd Fawr ym Mangor, sy’n gydweithrediad rhyngom ni, Tai Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd. Dyma enghraifft lle mae’r gwahanol sefydliadau wedi cyflawni eu cryfderau ac wedi cyflawni canlyniad – prosiect adfywio gwirioneddol i ganol dinas Bangor a thai gyda staff cymorth ar y safle. Mae’n amlygu pwysigrwydd sefydliadau’n siarad â’i gilydd, yn chwarae i’w cryfderau ac yn dod o hyd i atebion gyda’i gilydd. Ac mae angen i hynny ddigwydd yn fwy ar draws y sector.
“Fe wnaethom hefyd ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig i’r pwyllgor am ddyfodol y Grant Cymorth Tai, yng ngoleuni ailgartrefu cyflym a’r Bil Digartrefedd sydd ar ddod, yn ogystal â phwysau ar wasanaethau tai a phwysigrwydd cefnogi staff rheng flaen.
“Yn allweddol i’n tystiolaeth oedd yr angen i wasanaethau barhau i ddatblygu a staff i gael eu cefnogi’n well fel y gallwn ddiwallu anghenion cynyddol ein cymunedau”.