Cyrraedd rhestr fer Gwobrau Northen Housing am ein ymrwymiad carbon sero-net
Rydym wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer Gwobr Northern Housing i nodi ein ymrwymiad i dorri allyriadau carbon o’n cartrefi i sero-net erbyn 2030 i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Rydym yn arwain y gwaith yma gyda Llywodraeth Cymru. Mae’n un o’r cymdeithasau tai cyntaf yn y DU i ymrwymo i ddatgarboneiddio ei gartrefi, gan ddod ag adnoddau ynghyd fel rhan o Grŵp Cydweithredol Gogledd Cymru i gynorthwyo ag adferiad economaidd gwyrdd yr ardal, ac i gyflawni effaith gwir a pharhaol i Agenda argyfwng hinsawdd.
Gyda chefnogaeth Cronfa Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, rydym wedi cychwyn ein peilot cychwynnol i ôl-osod 80 o gartrefi, datblygu pasbort sero-net ar gyfer bob cartref, teilwra ein dull i gyflawni pasbort pwrpasol i ddatgarboneiddio. Yr amcan ydi y bydd y bwlch yn y cyllid ar gyfer ôl-osod ein holl stoc yn £120 miliwn. Bydd y gwaith yn dechrau dros y tair blynedd nesaf gyda chefnogaeth Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.
Rydym yn targedu ein stoc bresennol sy’n perfformio waethaf o ran ynni, gan ddefnyddio dull ffabrig yn gyntaf i ddatgarboneiddio; mae ein tîm Asedau wedi canolbwyntio ar inswleiddiad wal allanol, gan gwblhau gwaith ar 238 o’n cartrefi, gan alluogi arbediad carbon o 15% ar gyfartaledd fesul tŷ.
Mae ein tîm Asedau yn monitro data tymheredd, lleithder, dŵr poeth a thrydan bob cartref, gan ddefnyddio technoleg Tai Clyfar ac yn cydweithio gyda Phrifysgol Abertawe.
Mae ein strategaeth ddatgarboneiddio yn gosod ein uchelgais. Mae Cynllun Rheoli Carbon yn gosod y camau gweithredu, gan alluogi dull cwmni cyfan tuag at ddatgarboneiddio ar gyfer adeiladau o’r newydd, ôl-osod, fflyd, swyddfeydd, ynni, tir, addysg, hyfforddiant a sgiliau.
Dywedodd Ffrancon Williams, ein Prif Weithredwr: “Rydym yn hapus dros ben ein bod ar restr fer Gwobrau Northern Housing ar gyfer y dull yr ydym wedi’i fabwysiadu i ddatgarboneiddio ein cartrefi. Yn Adra, rydym yn ystyried bod lleihau defnydd o ynni yn allweddol i helpu i leihau costau rhedeg cartrefi ein preswylwyr, gan fynd i’r afael gyda thlodi tanwydd. Mae angen i ni i gyd weithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth.”
Edric Jones oedd y tenant cyntaf i symud i’w stad ym Mangor yn 1972 ac mae gwaith wedi’i wneud i’w gartref fel rhan o beilot ôl-osod cychwynnol Adra, gan gynnwys to newydd, inswleiddiad to ac inaswleiddiad wal allanol, gyda rendr dash. Dywedodd: “Rwyf yn hapus iawn gyda’r ffordd y mae fy nghartref yn edrych rŵan; mae’n llawer cynhesach ar ôl i’r gwaith gael ei wneud.”
Dywedodd Sarah Schofied, ein Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau: “Rydym yn dysgu fel mae pawb arall yn dysgu ac yn dod â’r wybodaeth at ei gilydd; mae dyhead i gyrraedd y nod a o gael cartrefi sero-net. Drwy weithio fel tîm byddwn yn symud yr Agenda cynaliadwyedd ymlaen, a hynny drwy gydweithio.”
Ychwanegodd Mathew Gosset, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Asedau: “Bydd datgarboneiddio stoc yn heriol iawn a bydd yn newid y ffordd yr ydym yn draddodiadol wedi bod cynhyrchu, caffael a chyflawni ein cynllun buddsoddi. Yn ddiweddar, rydym wedi adolygu ein strategaeth rheoli asedau i gyd-fynd gyda’n strategaeth datgarboneiddio, gan sicrhau ein bod yn barod i fynd i’r afael â’r her fydd yn wynebu’r sector dai yn y dyfodol.”
Am ymholiadau’r wasg neu’r cyfryngau, cysylltwch efo: Elin Heledd Rowlands, Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu Adra: elin.rowlands@adra.co.uk