Cwyn Ffurfiol
Os ydych yn anhapus gyda’n gwasanaeth rydych wedi ei dderbyn ganddom ni gallwch gysylltu â ni.
Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau fod y broblem yn cael ei datrys.
Os ydych wedi cysylltu â ni sawl gwaith a mae’r broblem dal heb ei datrys, gallwch anfon cwyn ffurfiol atom.
Beth yw ‘cwyn’
Mae cwyn yn golygu fod cwsmer i ni yn anhapus gyda’r gwasanaeth maent wedi ei dderbyn gennym ni neu un o’n contractwyr.
Mae hyn yn cynnwys:
- rydym wedi gwneud rhywbeth na ddylem ei wneud
- nid ydym wedi gwneud rhywbeth y dylem fod wedi ei wneud
- pan mae ymddygiad aelod o staff (neu un o’n contractwyr) yn amhriodol
- nid ydym wedi darparu gwasanaeth i’r ansawdd, lefel diogelwch , amleder neu gost disgwyliedig
- roedd ein proses penderfynu yn ddiffygiol
- rydym wedi gweithio y tu allan i bolisi neu brotocol
Fel arfer rhaid i chi roi gwybod i ni am gwyno fewn chwe mis i’r digwyddiad er mwyn i ni allu ymchwilio i’r broblem tra mae’r achos dal yn fyw ym meddyliau pawb.
Mae rhai eithriadau ble gallwn edrych ar achosion ar ôl chwe mis.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
- Byddwch yn derbyn ebost yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith.
- Bydd ein Cydlynydd Gwasanaeth Cwsmer (Cwynion) yn cysylltu â chi i drafod eich cwyn ymheallch os oes angen.