Llun o criw o bobl

Daniel yn aelod o Banel Dyfodol Tai Cymru

Ddydd Mercher roedd Daniel Campbell, un o’n Swyddogion Rhent ac Incwm, yn rhan o banel Dyfodol Tai Cymru’r Sefydliad Tai Siartredig, ochr yn ochr â Jane Bryant, AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai.

Dewiswyd Daniel i ymuno â’r Panel ar ôl rhannu ei syniadau am yr hyn y dylai Llywodraeth Cymru ei wneud am yr argyfwng tai.

Dywedodd Daniel: “Dw i wastad wedi bod â diddordeb mewn polisïau tai, ac ers i mi fod yn gweithio yn Adra fel Swyddog Rhent ‘dw i wedi gweld gyda llygaid fy hun yr effaith y gall y math hwn o swydd ei chael ar gymuned.

“Yn fy nghyfweliad nodais fod 4,000 o bobl sengl yn ddigartref yng Nghymru, tra, ym mis Mawrth 2023, dim ond 263 o eiddo ‘un ystafell wely’ oedd ar gael.

“Yn fy marn i, un o brif amcanion Llywodraeth Cymru ddylai fod i fuddsoddi mwy mewn tai â chymorth ‘un gwely’ a gwasanaethau cymorth i bobl sengl ddigartref, ac er bod rhywfaint o welliant wedi bod, nid yw’r cyflenwad presennol yn bodloni’r galw.

“Fe wnes fwynhau fy nghynhadledd TAI gyntaf erioed. Roedd yn brofiad gwych ac yn braf gweld llawer o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn dod at ei gilydd i rannu syniadau ar sut i fynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu’r sector o SATC, polisi rhenti, digartrefedd a chyllid.”