Datblygu partneriaeth newydd hefo cwmni lleol yn creu cyfleoedd
Byddwn yn gwario dros £100,000 y flwyddyn ar gwmni lleol, a chyfanswm o hanner miliwn dros y pum mlynedd nesaf.
Rydym wedi dyfarnu ein contract Gwasanaethu a Chynnal a Chadw Diogelwch Tân i Snowdonia Fire Protection Ltd, sydd wedi eu lleoli yn Waunfawr, Gwynedd yn dilyn proses dendro gystadleuol ddiweddar.
Bydd y cytundeb gennyn ni yn galluogi’r cwmni i gyflogi un prentis newydd, un gweinyddwr ac un peiriannydd tân newydd.
Dywedodd Iwan Trefor Jones, ein Dirprwy Brif Weithredwr:
“Rydym yn falch iawn o fod wedi dyfarnu’r contract hwn i gwmni lleol. Mae Adra yn tyfu ac yn creu cartrefi, swyddi a chyfleoedd ar draws gogledd Cymru yn ogystal â chyfrannu at yr economi leol.
“Bydd un cyfle prentisiaeth newydd yn cael ei greu o ganlyniad sy’n ein gwneud yn falch. Dyma ffordd i dalent leol ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth tra’n ennill bywoliaeth.
“Rydym ni yn Adra wedi sefydlu ein hacademi ein hunain o’r enw Academi Adra yn ddiweddar, lle rydym yn buddsoddi mewn cyfleoedd cyflogaeth a sgiliau i bobl leol gan gynnwys ein tenantiaid ac yn ystyried hyn yn flaenoriaeth.”
Bydd y cytundeb hanfodol hwn yn golygu y bydd Eryri yn cymryd cyfrifoldeb am gynnal a chadw’r systemau diogelwch tân a’r offer diffodd tân yn yr ardaloedd cymunedol, yn ogystal â chynnal a chadw’r systemau taenellu ar draws ein cartrefi newydd eu hadeiladu.
Dywedodd Peter Greasley o Warchod Tân Eryri:
“Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn y contract ac i fod yn gweithio gydag Adra ar eu gofynion Diogelwch Tân – ac mewn cyfnod o dwf gwirioneddol iddyn nhw hefyd. Byddwn yn recriwtio aelodau tîm ychwanegol o’r ardal i gefnogi’r gwaith y byddwn yn ei wneud ar eu rhan, ac rydym yn falch o fod yn gweithio gyda nhw.
Bydd y ffordd ydan ni’n cefnogi twf Adra hefyd yn arwain at gyfleoedd cyflogaeth gyda ni yn y dyfodol, a’n cyfraniad at fentrau cymunedol eraill Adra hefyd.”
Am fwy o wybodaeth am ein cynllun sgiliau a chyflogadwyedd, Academi Adra, cliciwch yma neu cysylltwch hefo ein Swyddog Cyswllt Cymunedol, Charlotte: Cymunedol@adra.co.uk