Dathliad o’r Nadolig yn y Gadeirlan gydag Adra
Mae Cymdeithas Tai Adra yn cynnal ei gwasanaeth carolau cyntaf erioed ac yn gwahodd pobl i gychwyn i’w dathliadau Nadoligaidd gyda nhw.
Cynhelir y gwasanaeth elusennol yng Nghadeirlan Bangor nos Fercher, 13 Rhagfyr am 6.30pm. Bydd darlleniadau Nadoligaidd gan aelodau o staff a Bwrdd Adra, yn ogystal â pherfformiadau cerddorol gan Wasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn, bydd Côr Adra yn perfformio, yn ogystal â pherfformiad gan Grŵp Showzone o Faesgeirchen, Bangor;
Dywedodd Rhys Parry, Cyfarwyddwr Adnoddau Adra: “Rydym yn falch iawn o gael cynnal ein gwasanaeth carolau cyntaf erioed yn amgylchoedd godidog Eglwys Gadeiriol Bangor. Gyda’r Nadolig ar y gorwel, bydd hon yn ffordd hyfryd o gael pawb at ei gilydd i ymuno â’r dathliadau a mynd i ysbryd y Nadolig. Mae hwn hefyd yn gyfle i arddangos talent pobl ifanc.
“Mae mynediad am ddim i’r gwasanaeth ond byddwn yn gwneud casgliad tuag at ein dewis elusen ar gyfer eleni, yr Uned Arennol yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, er cof am un o weithwyr Adra a fu farw’n gynharach eleni.”
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei noddi’n garedig gan Travis Perkins.
Dywedodd Andrew Craig, Rheolwr Rhanbarthol Travis Perkins: “Rydym yn falch iawn o gefnogi gwasanaeth carolau Adra eleni.
“Rydym wedi datblygu perthynas waith cryf gyda’r cwmni ac mae Adra a Travis Perkins yn ymdrechu i gefnogi cymunedau lleol trwy fuddsoddi mewn mentrau a chymryd rhan ynddynt, wrth wneud yn siŵr bod cymunedau lleol yn elwa o’n hymdrechion”.