Tri person yn cynrychioli Adra yn y gwobrau

Dathlu anrhydedd mewn gwobrau mawreddog

Rydym yn dathlu cael ein coroni’n enillydd yn y Gwobrau Gwerth Cymdeithasol a gynhaliwyd yn Birmingham neithiwr (dydd Iau, 17 Hydref)

Mae’r Gwobrau Gwerth Cymdeithasol yn wobrau cenedlaethol sy’n cydnabod ac yn hyrwyddo busnesau sy’n pwysleisio gwerth cymdeithasol fel rhan o’u gwaith o ddydd i ddydd.

Cyhoeddwyd mai ni oedd enillwyr y categori Arweinyddiaeth y Sector Preifat yn erbyn cystadleuaeth gref a  derbyniwyd ‘canmoliaeth uchel’ yn y categori Atebolrwydd ac Adrodd.

Yn ystod 2023/24 cyflawnodd y cwmni werth cymdeithasol o £9,582,635 a oedd o fudd i gymunedau ar draws gogledd Cymru.

Amlygodd adroddiad diweddar a gyhoeddwyd  rai o’r cyflawniadau allweddol yn ymwneud â gwerth cymdeithasol:

  • Mae 94% o’n cyflenwyr Cymreig wedi’u lleoli yng ngogledd Cymru
  • £55 miliwn wedi’i wario gyda chontractwyr gogledd Cymru
  • Cyflogwyd 370 o bobl leol gennym
  • Cefnogir 231 o bobl i mewn i gyflogaeth a hyfforddiant trwy fenter hyfforddiant a chyflogaeth Academi Adra

Dywedodd Llinos Bracegirdle, ein Cydlynydd Gwerth Cymdeithasol: “Roeddem wrth ein bodd i ennill un o’r gwobrau a derbyn canmoliaeth uchel yn y llall. Mae’r gwobrau’n adlewyrchu’r holl waith gwych sy’n mynd ymlaen ar draws y busnes i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd ar gyfer gwerth cymdeithasol.

“Mae hwn yn ymdrech tîm rhwng ein staff,  partneriaid a chontractwyr i greu cyfleoedd i’n tenantiaid a’n cymunedau ffynnu”.

Dywedodd Rhys Parry, ein Cyfarwyddwr Adnoddau: “Rydym am gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl, yn ogystal â’r gymuned ehangach. Mae’r ymrwymiad hwnnw wedi’i adlewyrchu yn ein Cynllun Corfforaethol sy’n canolbwyntio ar adeiladu cartrefi o safon y gall pobl fod yn falch ohonynt; cefnogi cymunedau a phobl i ffynnu; datgarboneiddio ein cartrefi; gwella profiad y cwsmer a chryfhau’r busnes.

“Rydym am ddarparu cyfleoedd i bobl gael mynediad at swyddi a hyfforddiant o safon; rydym am wneud yn siŵr bod y contractwyr a gyflogwn yn darparu buddion ychwanegol drwy fuddsoddiad a mentrau yn ein cymuned ac rydym am barhau i chwarae ein rhan yn adfywio’r economi leol.

“Mae cael ein cydnabod yn genedlaethol am ein gwaith yn anrhydedd”.