Llun o gynulleidfa yn ein cyfarfod blynyddol

Dathlu buddsoddiad cartrefi mewn adroddiad blynyddol

Yn ystod ein cyfarfod blynyddol yr wythnos hon, cyhoeddwyd ein adroddiad blynyddol diweddaraf, sy’n tynnu sylw at y buddsoddiadau a wnaed mewn cartrefi ar draws gogledd Cymru.

Gwariwyd dros £15.2 miliwn ar uwchraddio stoc ein tai presennol  yn ystod 2023/2024, gyda 463 o gartrefi yn gweld gwaith gwella megis ail-doi, ffenestri a drysau newydd, inswleiddio, ffensio, gosod boeleri newydd ac uwchraddio ceginau ac ystafelloedd ymolchi.

Gwariwyd £49 miliwn ar adeiladu cartrefi newydd i ateb y galw lleol, a chwblhawyd 250 o gartrefi newydd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.  Gwnaethpwyd dros hanner y buddsoddiad hwn drwy arian grant.

Roedd nifer y cartrefi sy’n cael eu rheoli gan Adra hefyd wedi pasio’r garreg filltir o 7,100 yn ystod y flwyddyn.

Uchafbwyntiau eraill sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad:

  • Gwariwyd £3.9 miliwn ar wneud cartrefi’n effeithlon o ran ynni
  • Cefnogwyd 231 o bobl i mewn i gyflogaeth neu hyfforddiant gyda ni neu ei gontractwyr
  • Cymerodd 2,456 o denantiaid ran mewn ymgynghoriadau amrywiol, gyda 93% o denantiaid yn hapus gyda gwasanaethau rheng flaen ac 82% o denantiaid yn hapus gyda’r cyfleoedd i fod yn rhan o lunio ein gwasanaethau.
  • Rhoddwyd cymorth i 187 o unigolion trwy wardeniaid ynni
  • Buddsoddwyd £706,902 mewn addasiadau i gartrefi
  • 124 o atgyfeiriadau i Gyngor ar Bopeth
  • Gwnaed 228 o atgyfeiriadau i fanciau bwyd
  • Derbyniodd 259 o deuluoedd neu unigolion gymorth dyled.

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddatblygiad Tŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes – yr hwb ddatgarboneiddio cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig, grëwyd mewn partneriaeth rhyngom ni, Busnes@LlandrilloMenai a Phrifysgol Bangor.

Dywedodd Hywel Eifion Jones, Cadeirydd ein Bwrdd: “Rydym yn falch iawn o gyflwyno ein hadroddiad blynyddol. Mae’n adlewyrchu’r perfformiad cryf a’r gwaith da sy’n digwydd ar draws y busnes i wella bywyd ein tenantiaid a’u rhoi wrth galon popeth a wnawn.

“Mae partneriaethau hefyd yn bwysig iawn i ni ac mae gennym ni ystod eang o bartneriaid ar draws gogledd Cymru a thu hwnt ac mae cael perthynas gref ac ymrwymiad i gydweithio yn talu ar ei ganfed i’n cymunedau”.

Dywedodd Iwan Trefor Jones, ein Prif Weithredwr : “Mae’r adroddiad yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar ein cyflawniadau ac rydym yn falch iawn o fod yn trawsnewid bywydau cymaint o bobl trwy ddatblygiadau fel Academi Adra a Thŷ Gwyrddfai.

“Wrth gwrs, rydyn ni’n wynebu heriau fel pob cymdeithas dai arall yng Nghymru. Mae costau byw yn parhau i effeithio ar ein tenantiaid ac mae’r hinsawdd ariannol wedi arwain at gostau uwch, llai o argaeledd datblygwyr a chontractwyr a galw cynyddol am swyddi a hyfforddiant.

“Rydym yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r heriau hyn ac yn edrych ymlaen at flwyddyn lwyddiannus arall wrth i ni barhau i gyflawni ein rhaglen uchelgeisiol o weithgarwch”.