Llun o logo'r gwobrau

Dathlu cyrraedd y rhestr fer mewn gwobrau cenedlaethol

Mae’r Gwobrau Building Communities yn wobrau cenedlaethol sy’n cydnabod ac yn dathlu proffesiynoldeb, rhagoriaeth ac arloesedd o fewn y gymuned tai ac adeiladu – ac rydym wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori ‘Community Impact’ ar gyfer ein gwaith gwerth cymdeithasol.

Yn ystod 2023/24 fe wnaethom gyflawni gwerth cymdeithasol o £9,582,635 a oedd o fudd i gymunedau ar draws gogledd Cymru.

Fe wnaethom hefyd gyhoeddi adroddiad a amlygodd rai o’n cyflawniadau allweddol o ran gwerth cymdeithasol:

  • Mae 94% o’n cyflenwyr Cymreig wedi’u lleoli yng ngogledd Cymru
  • £55 miliwn wedi’i wario gyda chontractwyr gogledd Cymru
  • Rydym yn cyflogi 370 o bobl leol
  • Cefnogwyd 231 o bobl i gyflogaeth a hyfforddiant trwy fenter hyfforddiant a chyflogaeth Academi Adra

Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu ein hymrwymiadau i ddarparu cymorth ariannol ac arweiniad i denantiaid, tai â chymorth, delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, datgarboneiddio a’r amgylchedd, buddsoddi mewn cartrefi presennol a datblygiadau newydd, y Gymraeg a gweithio mewn partneriaeth.

Dywedodd Llinos Bracegirdle, ein Cydlynydd Gwerth Cymdeithasol: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer mewn categori yn y gwobrau cenedlaethol hyn ac mae’n adlewyrchu’r holl waith gwych sy’n mynd ymlaen ar draws y busnes i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd am werth cymdeithasol.

“Hoffwn dalu teyrnged i staff, partneriaid a chontractwyr am eu hymrwymiad i greu cyfleoedd i’n tenantiaid a’n cymunedau ffynnu”.

“Rydyn ni eisiau cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl, yn ogystal â’r gymuned ehangach. Mae’r ymrwymiad hwnnw wedi’i adlewyrchu yn ein Cynllun Corfforaethol sy’n canolbwyntio ar adeiladu cartrefi o safon y gall pobl fod yn falch ohonynt; cefnogi cymunedau a phobl i ffynnu; datgarboneiddio ein cartrefi; gwella profiad y cwsmer a chryfhau’r busnes.

“Rydym am ddarparu cyfleoedd i bobl gael mynediad at swyddi a hyfforddiant o safon; rydym am wneud yn siŵr bod y contractwyr a gyflogir gennym yn darparu buddion ychwanegol trwy fuddsoddiad a mentrau yn ein cymuned ac rydym am barhau i chwarae ein rhan yn adfywio’r economi leol”.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y gwobrau yn Derby ym mis Mawrth.