Logo Rhagoriaeth mewn gwasanaeth i gwsmeriaid

Dathlu llwyddiant gwasanaeth cwsmer

Newyddion gwych – rydym wedi derbyn ardystiad llawn ar gyfer Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer yn dilyn asesiad llawn.

Mae Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid yn nod ansawdd cenedlaethol sy’n cydnabod sefydliadau sydd â diwylliant sy’n canolbwyntio’n wirioneddol ar y cwsmer.

Roedd yr asesiad yn cynnwys cyfarfodydd gyda staff, partneriaid a chwsmeriaid ac edrychodd ar adborth cwsmeriaid, diwylliant y cwmni, gwybodaeth a mynediad, darpariaeth gwasanaeth ac amseroldeb ac ansawdd gwasanaeth.

Mae cryfderau allweddol a nodwyd yn ystod yr asesiad yn cynnwys:

  • Arweinyddiaeth gref
  • Mae staff yn cael eu hannog a’u grymuso i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth o safon i bob cwsmer.
  • Mae partneriaid yn rhoi enghreifftiau clir o weithio ochr yn ochr ag Adra i ddarparu gwasanaeth o safon i’r cwsmeriaid y maent yn cysylltu â nhw.
  • Datblygu’r gwasanaeth yn barhaus
  • Mae cwsmeriaid yn parhau i fod wrth galon y gwasanaeth a gynigir
  • Ymagwedd gadarnhaol at ddatblygu staff

Dyfarnwyd 11 gradd ‘Compliance Plus’ i ni. Mae hyn yn cael ei roi i gydnabod sefydliadau sy’n mynd y ‘filltir ychwanegol’. Rhoddwyd y dyfarniad yma am gyflwyno ein cronfa caledi; hyfforddiant staff mewn perthynas ag ymwybyddiaeth iechyd meddwl; gwerth cymdeithasol; Eich Llais; Academi Adra; buddsoddi yn ein stoc bresennol; Tŷ Peblig; partneriaethau a ffurfiwyd gyda Nuaire a Sant Gobain; ein gwaith elusennol; datblygu tai newydd a meincnodi perfformiad yn erbyn landlordiaid cymdeithasol eraill.

Dywedodd Catrin Thomas, ein Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Rydym wrth ein bodd gyda’r canfyddiadau gan ei fod yn adlewyrchu’r holl waith da sy’n digwydd ar draws y busnes i wella gwasanaethau i’n cwsmeriaid. Diolch am yr holl waith gwych rydych yn ei wneud.

“Rydym yn edrych ar yr adborth a ddarparwyd yn yr adroddiad swyddogol i weld beth arall y gallwn ei wneud i wella profiadau i’n cwsmeriaid, gan ddefnyddio’r dechnoleg sydd ar gael i ni ac edrych ar sut rydym yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â’n tenantiaid”.