Llun o rhes o blant yn canu mewn côr

Dathlu’r Nadolig gyda disgyblion Ysgol Cymerau yn Frondeg

Diolch mawr i ddisgyblion Ysgol Cymerau, Pwllheli ddaeth draw i Frondeg cyn y Nadolig i ddathlu’r wŷl gyda thenantiaid.

Cafwyd perfformiad swynol o nifer o garolau gan y disgyblion ac mi fu’r plant hefyd yn clywed gan y tenantiaid oedd wedi bod yn gweithio’n galed i weu hetiau ar gyfer y gaeaf.

Dywedodd Nia Jones, Warden Frondeg:  “Mae’n fraint ac yn bleser mawr gweithio fel Swyddog Warden yn Frondeg yn ystod y tymor Nadolig. Mae gweld y disgyblion o Ysgol Cymerau Pwllheli yn dod â gweithgareddau hyfryd i’n trigolion wedi bod yn brofiad gwirioneddol galonogol.

“Mae’r ysbryd cymunedol a’r caredigrwydd a ddangoswyd gan bawb wedi gwneud y Nadolig hwn yn un arbennig iawn.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r trigolion a’r gymuned i greu mwy o atgofion gwerthfawr fel hyn yn y dyfodol.”