Derbyn gwobrau fawreddog y sector tai
Mae partneriaeth arloesol i greu canolfan ddatgarboneiddio yng Ngwynedd – y gyntaf o’i bath yn y DU – wedi ennill gwobr fawreddog yn y diwydiant tai.
Cynhaliwyd Gwobrau Tai Cymru gan Sefydliad Siartredig Tai Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar ac fe wnaethant gydnabod arferion da yn y diwydiant tai, yn ogystal â chreadigrwydd, angerdd ac arloesedd sefydliadau ac unigolion ar draws y sector yng Nghymru.
Roeddem ni, ynghyd â Busnes@LlandrilloMenai a Phrifysgol Bangor, yn llwyddiannus yn ennill gwobr ‘Gweithio mewn Partneriaeth’ am ein gwaith o ddatblygu Tŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes, sy’n dod yn ganolfan ragoriaeth ac yn arweinydd sector mewn datgarboneiddio, arloesi a hyfforddiant i gymunedau lleol.
Roedd hi’n noson lwyddiannus i ni, gan i ni hefyd ennill y Wobr Cynaliadwyedd mewn Tai am ein hymdrechion i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o allyriadau carbon sero erbyn 2050. Roedd y wobr hon yn canolbwyntio ar ddatblygiad Tŷ Gwyrddfai, yn ogystal â Tendra, menter sydd â’r nod o feithrin twf a datblygiad o fewn y sector adeiladu lleol.
Amlygodd y wobr hefyd waith Academi Adra, y fenter hyfforddi a datblygu, yn ogystal ag ymdrechion i gyrraedd y targed allyriadau carbon sero a osodwyd gan Lywodraeth Cymru trwy ein rhaglenni adeiladu newydd ac adnewyddu cartrefi a datblygiad Ffrâm24, y fframwaith Cymru gyfan a sefydlwyd gan Adra ar gyfer cyflenwi deunyddiau adeiladu a chynhyrchion cysylltiedig.
Mi wnaethom hefyd gyrraedd y rhestr fer yn y categori Cefnogi Cymunedau am ein gwaith gwerth cymdeithasol.
Dywedodd Siôn Hughes, ein Cyfarwyddwr Polisi a Chyflawni: “Mae’n anrhydedd cael ein cydnabod gan y diwydiant tai ar lefel genedlaethol ac mae’n dyst i ymrwymiad ac ymroddiad ein staff, partneriaid a chontractwyr sy’n gweithio’n ddiflino i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ac i’r gymuned ehangach.
“Byddwn yn parhau â’n hymdrechion datgarboneiddio ac yn chwarae ein rhan i amddiffyn yr amgylchedd, yn ogystal â chefnogi’r economi leol a darparu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad.”