Disgyblion Bangor yn trawsnewid darn o dir yn ardal ddysgu awyr agored
Cafodd gardd ddysgu arbennig ei dadorchuddio gan ddisgyblion Ysgol Ein Harglwyddes, Bangor wythnos diwethaf – yn dangos y gwaith gwych sydd wedi ei wneud i drawsnewid edrychiad darn o dir oedd yn cael ei ddefnyddio gan bobl i dipio yn slei bach.
Cafodd y prosiect y gyllido gan Taclo Tipio Cymru fel rhan o’i ymgyrch #DimMwyOEsgusodionSbwriel a chymdeithas dai Adra, wnaeth gweithio’n agos gyda’r disgyblion i adfywio’r ardal sydd dan ei perchnogaeth a rheolaeth.
Mae’r safle wedi ei leoli ger stad o dai Tai Stesion, ac mae’r Ardd Ddysgu 12m wrth 5m yn 10 munud o gerdded o’r ysgol, fydd yn darparu ardal lle gall y plant ddysgu ac ardal saff sy’n creu awyrgylch stafell ddosbarth awyr agored gall yr ysgol ddefnyddio yn ystod yr haf.
Mae’r ardd newydd yn cynnwys ardal o flodau gwyllt, adnoddau ar gyfer bywyd gwyllt, meinciau newydd a phwll ar gyfer bywyd gwyllt. Cafodd yr ardal ei ddylunio ac adeiladu dros gyfnod o 8 wythnos, gyda’r disgyblion yn rhan allweddol o’r broses o’r dechrau i’r diwedd.
Dechreuodd y gwaith ym mis Ionawr, gyda staff o Adra a’r Cyngor yn clirio’r safle i’w baratoi ar gyfer y gwaith.
Bu’r fenter gymdeithasol. Elfennau Gwyllt, sydd yn gweithio i annog pobl allan i’r awyr agored, yn cynnal sesiynau gyda’r disgyblion i’w helpu drwy’r broses trawsnewid.
Fe wnaeth Sefydliad Confucius Bangor hefyd gefnogi’r prosiect – gan drefnu i’r disgyblion ymweld â Chanolfan Garddio Treborth i gael gwneud gwaith ymchwil er mwyn cynllunio edrychiad yr ardd.
Dywedodd Jayne Cartrer, Uwch Swyddog Prosiect Taclo Tipio Cymru: “Mae’n anodd credu bod y darn hwn o dir yn yr un darn o dir ag oedd yn ddeufis yn ôl, mae wedi ei drawsnewid yn llwyr o ganlyniad i ymdrech ffantastig yr holl gyrff oedd yn rhan o’r prosiect.
“Mae’r ardd yn enghraifft wych o beth sy’n bosib ei gyflawni pryd mae sefydliadu cymunedol yn dod at ei gilydd i fynd i’r afael a phroblemau tipio slei bach, a hyd yn hyn mae’r prosiect wedi llwyddo i stopio troseddwyr adael eu gwastraff yn anghyfreithlon ar y safle.
“Mae tipio slei bach yn broblem barhaus yng Ngwynedd fel rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghymru, felly mae’n bwysicach nag erioed i ni fod yn addysgu’r genhedlaeth nesaf ynglŷn â sut i gael gwared â gwastraff yn gyfreithlon a chyfrifol.
“Mae disgyblion Ysgol Ein Harglwyddes wedi dangos gymaint o ymroddiad a diddordeb yn y prosiect ac roedd hi’n braf gallu dangos y gwaith caled yma i swyddogion o Adra a phartneriaid eraill oedd yn rhan o hyn yn y digwyddiad heddiw.”
Ychwanegodd Michael Evans, Rheolwr Rheolaeth Tir Adra: “Dyma’r ail leoliad tipio slei bach rydym wedi trawsnewid dros y chwe mis diwethaf er budd y gymuned leol.
“Rydym wastad yn edrych am ffyrdd newydd o annog pobl i beidio camddefnyddio ein tir a thrwy ein partneriaeth gyda Taclo Tipio Cymru, rydym yn awyddus i barhau i adfywio’r lleoliadau yma sy’n cael eu camddefnyddio’n gyson er mwyn atal troseddau pellach yn yr ardaloedd.”
Dywedodd Cyfarwyddwr a Sylfaenydd Elfennau Gwyllt, Tom Cockbill: “O fod yn newid planhigion yn y ganolfan arddio leol i ddylunio amgylchedd ar gyfer bywyd gwylltphlannu perlysiau, mae’r plant wedi bod yn rhan mawr o ddyluniad a gwaith adeiladu’r ardd o’r dechrau.
“Mae wedi bod yn bleser cynnig arweiniad a chefnogaeth iddynt drwy’r fenter, a dwi’n edrych ymlaen at weld y safle’n cael ei ddatblygu ymhellach gyda gofal y plant dros y blynyddoedd nesaf.”
Ategodd Dirprwy Bennaeth Ysgol Ein Harglwyddes, Mrs Aimee Jones: “Mae’r ardd ddysgu wedi profi i fod yn adnodd gwych ar gyfer ein hysgol yn barod.
“Gyda nifer o’n disgyblion wedi bod yn rhan o’r broses o’r dechrau, nid yn unig mae’r prosiect wedi helpu nhw i ddatblygu a meistroli sgiliau fel gweithio mewn tîm a datrys problem, ond mae o hefyd wedi ei atgoffa nhw – a bydd yn parhau i’w atgoffa – pa mor bwysig ydi hi i ni edrych ar ôl ein hamgylchedd lleol.
“Yn fwy na dim, mae wedi galluogi’r plant i feithrin sgiliau creadigol a datblygu eu hyder a’u dyheadau fel unigolion, sydd yn wybodus ac yn deall pam fod ymddygiad i dipio yn anghyfreithlon a thaflyd sbwriel yn annerbyniol.
“Rydym mor ddiolchgar i’r partneriaid a’r sefydliadau sydd wedi gwneud yr ardal ddysgu awyr agored yma yn bosib ar rydym yn teimlo’n falch bod ein disgyblion wedi chwarae rhan mor allweddol yn y broses drawsnewid, o’r dechrau i’r diwedd.”