Disgyblion Ysgol Bro Idris yn Herio Stigma Iechyd Meddwl
Dydd Mawrth (21.11.23), bu 24 disgybl anturus o Ysgol Bro Idris draw yng Ngwersyll yr Urdd Glan Llyn i fynychu ein Diwrnod Lles blynyddol.
Er bod y diwrnod yn llawn hwyl, y brif neges oedd bod yn dderbyniol i siarad am iechyd meddwl.
Yn ystod y dydd llwyddodd y myfyrwyr i ddiddymu stigma iechyd meddwl fel pwnc.
Mae’r ymdrech gydweithredol hon yn brosiect ar y cyd rhwng Adra, Heddlu Gogledd Cymru, a Llywodraeth Cymru.