Diwrnod y Merched yn yr Eisteddfod
Cynhaliodd Adra, Cymdeithas Tai fwyaf Gogledd Cymru ddiwrnod i Ferched sy’n gweithio mewn Tai Cymdeithasol (WISH) yn yr Eisteddfod Genedlaethol dydd Mercher (09/08/23). Nod y digwyddiad oedd denu merched i ddod i weld drostynt eu hunain bod gyrfaoedd ar gael iddynt mewn tai cymdeithasol.
Yn draddodiadol, mae llawer o’r swyddi yn y diwydiant hwn yn cael eu dominyddu gan ddynion ac mae Adra ar flaen y gad o ran denu merched i weithio yn y sector adeiladu a thai.
Y siaradwraig gwadd oedd Sasha Wyn Davies Is-Gadeirydd Adra yn rhannu ei hangerdd dros Adfywio a Thai.
Ymhlith y panelwyr heddiw oedd Fflur Jones o Darwin Gray, Alwen Williams o Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru, Elliw Llŷr o Gyngor Sir Ynys Môn, Emma Williams o Tai Gogledd Cymru a Chyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau Adra, Sarah Schofield.
Fe ddywedodd Sarah Schofield:
“Mae’n bwysig bod merched yn cael y cyfle i archwilio’r diwydiannau adeiladu a thai cymdeithasol fel llwybr gyrfa o oedran cynnar gan fod nifer o gyfleoedd gwahanol ar gael. Mae’r swyddi yn amrywio o Adnoddau Dynol, cyllid a Thechnoleg Gwybodaeth hyd at swyddi technegol fel syrfëwr a datblygu ynghyd a swyddi mwy ymarferol fel plymwr, plastrwyr a wardeniaid cymunedol.
Dyma pam rydyn ni’n cefnogi neu’n cynnal digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn i roi blas i ferched o sut beth yw gweithio yn y diwydiant mor wych.
Mae Academi Adra hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn hyn.”
Mae Academi Adra yn cyfuno’r ystod eang o gyfleoedd y gall Adra eu darparu drwy eu partneriaid i helpu ein tenantiaid a’r bobl sy’n byw yn ein cymunedau i ddatblygu eu sgiliau a dod o hyd i waith. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae 43 o bobl ifanc wedi derbyn hyfforddiant galwedigaethol gyda 4 yn mynd ymlaen i gael gwaith llawn amser.
Mae’r cynllun hwn yn ymwneud â darparu cyfle i bawb, a chwalu rhwystrau i sicrhau y gall pawb lwyddo. Cafodd dros 65 o ferched Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes flas ar weithio yn y maes adeiladu fel rhan o ddigwyddiad o’r enw ‘Nid yn Unig i Fechgyn’ yn gynharach eleni. Arweiniodd Adra y digwyddiad hwn ynghyd â Chwarae Teg, elusen sy’n ysbrydoli, arwain a gweithredu cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru.
Mae Sara Fôn Williams, Rheolwr Prosiect yn Adra yn falch gyda’r cynnydd a wnaed eleni. “Rydyn ni’n falch iawn o’r hyn rydyn ni’n ei gyflawni yn Adra ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu mwy o ferched i’r diwydiant. Ni allaf bwysleisio digon pa mor heriol, ond gwerth chweil yw gweithio mewn tai cymdeithasol ac mae Adra yn cynnig hyfforddiant ac arweiniad trwy gydol y broses gyfan.”