Ein cynlluniau uchelgeisiol am y pum mlynedd nesaf 

Rydyn yn gyffrous i lansio ein Cynllun Corfforaethol newydd sbon, sy’n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf, sy’n cynnwys cynlluniau i fuddsoddi  £85 miliwn yn ein stoc dai presennol ac adeiladu 800 o gartrefi newydd ar draws y rhanbarth.  

Mae’r Cynllun yn nodi pedair blaenoriaeth allweddol:  

  • Gwella cartrefi i’w gwneud yn fwy ynni-effeithlon  
  • Creu mwy o gartrefi i ateb y galw cynyddol;   
  • Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gwsmeriaid a chymunedau drwy mynd i’r afael â materion cymunedol megis tlodi, iechyd meddwl ac unigrwydd; darparu addysg, hyfforddiant a swyddi i helpu pobl i gyrraedd eu llawn botensial   
  • Meithrin diwylliant ‘un tîm o fewn Adra i hyrwyddo creadigrwydd ac arloesedd o fewn y busnes i wella gwasanaethau i gwsmeriaid.  

Mae’r Cynllun hefyd yn amlinellu ein blaenoriaeth i gefnogi 700 o bobl i gyflogaeth neu hyfforddiant; darparu 15,000 o becynnau cymorth i denantiaid a sicrhau bod dros 90% o gwsmeriaid yn fodlon â gwasanaethau rheng flaen. 

Dros y 10 mlynedd diwethaf rydym wedi cynyddu nifer y cartrefi rydym yn eu darparu yn sylweddol ac yn ystod 2024 dathlodd y garreg filltir o gwblhau ei 1,000fed cartref newydd. Mae’r gymdeithas bellach yn darparu cartref i dros 18,000 o bobl ar draws mwy na 7,400 o eiddo yng ngogledd Cymru. 

Dywedodd Hywel Eifion Jones, Cadeirydd ein Bwrdd: “Mae ein cwsmeriaid a’n cymunedau wrth galon popeth a wnawn.  

“Credwn fod pawb yn haeddu cartref diogel, fforddiadwy o ansawdd uchel ac rydym hefyd yn teimlo’n angerddol am iechyd a lles pobl a darparu cyfleoedd i bobl ffynnu a chael mynediad at hyfforddiant a swyddi o safon.   

“Her allweddol arall sy’n wynebu cymdeithasau tai yw’r angen i greu cartrefi cynaliadwy yn ein cymunedau drwy leihau allyriadau carbon, gwella effeithlonrwydd ynni a mabwysiadu opsiynau ynni adnewyddadwy. Cefnogir hyn gan raglen waith fawr ar ein heiddo, yn unol â Safonau Ansawdd Tai Cymru.   

“Mae ein rhaglen yn uchelgeisiol ac rydym yn credu mewn creu a chryfhau partneriaethau o fewn cymunedau a gyda’n partneriaid i gyflawni ein cynlluniau. Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain, ond drwy gydweithio gallwn greu cymunedau ffyniannus a chynaliadwy sy’n cynnig gwell ansawdd bywyd i bawb.   

Dyma ddolen i’r ddogfen Cynllun Corfforaethol.