Ein newyddlen Tenantiaid diweddaraf
Mae ein Newyddlen Tenantiaid diweddaraf wedi ei gyhoeddi a’i anfon i gartref pob un o’n tenantiaid. Mae’r rhifyn yma yn un prysur iawn gyda:
- gwybodaeth am wasnanaethau a chymorth sydd ar gael
- gwybodaeth am beth rydym ni yn Adra wedi ei wneud i sicrhau diogelwch ei’n tenantiaid
- hanesion cyd-weithio gyda partneriaid
- straeon am ein tenantiaid yn ganol y cyfnod clo
- ac ambell i eitem ysgafn i ddiddanu
Rydym yn cyhoeddi dau rifyn bob blwyddyn a rydym yn gobeithio caiff ein tenantiaid fydd mawr o ddarllen y rhifyn arbennig yma. Dywedodd Delyth Lloyd, ein Pennaeth Cyfathrebu:
“Mae llawer o wybodaeth yn cael ei gyhoeddi yn ganol y pandemig, mae’n gallu bod yn ddryslyd iawn. Felly dan i yn gobeithio fod cael gwybodaeth defnyddiol am y banciau bwyd lleol a cymorth i bobl sydd yn dioddef camdrin domestig yn ogystal â clywed am beth sydd yn mynd ymlaen yn Adra o fydd i bobl”
Mae copi o’r newyddlen ar gael ar ein gwefan os hoffech ei ddarllen.