Ennill dwy wobr genedlaethol gan roi lles a’r iaith Gymraeg yn gyntaf
Daeth Adra i’r brig yng ngwobrau Adnoddau Dynol Cymru gan ennill yn y categori ‘Strategaeth Lles Gorau’ a’r categori ‘Defnydd Gorau o’r Iaith Gymraeg’ yng Nghaerdydd yr 8fed o Orffennaf.
Yn ôl Arolwg Boddhad Staff diweddar, daeth yn amlwg mai un o’r ffactorau sy’n denu staff i weithio’n Adra yw’r ffaith eu bod yn gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg o ddydd i ddydd ac yn cael defnyddio eu hiaith gyntaf i gyfathrebu, yn ogystal â hyn mae gan Adra Gynllun Iaith, Siarter Iaith Gymraeg, Gweithgor Iaith ac maent wedi bod yn gweithio’n proactif hefo swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a Mentrau Iaith i weld beth arall gall Adra wneud i hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn fewnol ac allanol.
Mae Adra hefyd yn cynnig amrywiaeth o hyfforddiant i’r 3% o staff sydd ddim yn rhugl yn y Gymraeg ac yn cynnig hyfforddiant i gynorthwyo pobl i fod yn fwy hyderus hefo eu sgiliau ac yn eu cefnogi i wneud hyn.
Daeth y tîm Adnoddau Dynol i’r brig am y strategaeth lles gorau hefyd drwy Gymru.
Mae tîm AD Adra wedi datblygu rhaglen iechyd a lles uchelgeisiol ar gyfer 2022, eleni gan ganolbwyntio ar wytnwch ac ymwybyddiaeth o iechyd a lles eraill. Mae’r rhaglen yn llawn o fentrau a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.
Dywedodd ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Pobl, Delyth Williams:
“Rydw i mor falch o weld y tîm Adnoddau Dynol yn dod i’r brig yn y ddau gategori yma. Iechyd a lles staff Adra yw’r hyn sy’n penderfynu llwyddiant hirdymor y cwmni. Rwy’n teimlo’n hynod falch o’r hyn yr ydym wedi cyflawni gyda’n strategaeth iechyd a lles yn ystod blwyddyn heriol.
“Mae gweithio’n hyblyg yn ein galluogi i gyflawni canlyniadau drwy ganolbwyntio ar allbynnau yn hytrach nag oriau a weithiwyd a phryd y gweithiwyd yr oriau hynny.
“Rwyf hefyd yn hynod falch o’r gwaith mae’r tîm Adnoddau Dynol yn ei wneud i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei flaenoriaethu ar draws y busnes megis darparu cyfleoedd hyfforddi i’r 3% o’n staff nad ydynt yn rhugl i ddysgu Cymraeg trwy gyrsiau.”
Dywedodd ein Prif Weithredwr, Ffrancon Williams:
“Gwych gweld canlyniadau Gwobrau Adnoddau Dynol Cymru lle bu ein timau yn llwyddiannus yn y categorïau “Strategaeth Les gorau” a “Defnydd gorau o’r Gymraeg”. Da iawn wir, mae llawer iawn o waith caled a chefnogol yn mynd ymlaen yn y cefndir yn Adra i ennill gwobrau o’r fath.”
Mae Adra yn recriwtio nifer o swyddi ar hyn o bryd, os hoffech weithio i gwmni sy’n rhoi blaenoriaeth i iechyd a lles staff a’r iaith Gymraeg, a llawer mwy ewch i: adra.co.uk/swyddi