Anrhydedd amgylcheddol yn dod adref i Adra
Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru yn dathlu derbyn gwobr amgylcheddol fawreddog.
Mae wedi ennill achrediad Llythrennedd Carbon lefel efydd am ei ymrwymiad a gwaith tuag at wella ymwybyddiaeth o fewn y sefydliad ar leihau ei ôl troed carbon ac effeithiau negyddol ar yr amgylchedd.
I dderbyn y wobr, roedd angen i Adra gwblhau hyfforddiant penodol, gan gynnwys tri aelod o staff yn cael eu hyfforddi i hyfforddi staff eraill. Mae dros 50% o staff hefyd wedi cael sesiynau ymwybyddiaeth amgylcheddol ynghylch newid hinsawdd.
Mae Adra hefyd wedi gweithio gyda Chonsortiwm Llythrennedd Carbon Cymru a grŵp o 28 o gymdeithasau tai ledled Cymru i ddatblygu cwrs penodol i’r sector tai cymdeithasol.
Daw’r wobr hon ar adeg gyffrous i Adra, gyda’r hwb datgarboneiddio cyntaf yn y Deyrnas Unedig yn cael ei greu ym Mhenygroes, Gwynedd.
O’r enw Tŷ Gwyrddfai, mae’r canolbwynt datgarboneiddio yn brosiect ar y cyd, gydag
- Adra
- Grŵp Llandrillo Menai
- Prifysgol Bangor
- Travis Perkins
- Welcome Furniture
i gyd yn rhan o gonsortiwm i drawsnewid y safle 120,000 troedfedd sgwâr yn ganolfan a fydd yn sicrhau bod gogledd-orllewin Cymru ar flaen yr agenda datgarboneiddio, gan weithio gyda chymunedau a busnesau i ôl-osod dros 18,000 o gartrefi dros y 10 mlynedd nesaf.
Dywedodd Gwen Thomas, Swyddog Gwella’r Amgylchedd Adra:
“Rydym yn falch iawn o gael ein hanrhydeddu â’r achrediad Llythrennedd Carbon gan fod Adra yn rhoi llawer o ffocws ar fod yn sefydliad glanach, gwyrddach ac ymateb yn gadarnhaol i’r argyfwng newid hinsawdd. Adlewyrchir hyn yn ein Cynllun Corfforaethol.
“Mae ein prosiect blaenllaw yn Nhŷ Gwyrddfai yn dangos ein hymrwymiad clir i wneud ein cartrefi’n fwy effeithlon o ran ynni ac mae codi ymwybyddiaeth o’r heriau hyn yn parhau i fod yn rhan annatod o ymdrech ac ymrwymiad Adra i ddod yn sefydliad Sero Net”.