Fideos i helpu ddatrys problemau yn eich cartref
Mae cadw eich cartref mewn cyflwr da yn bwysig.
Mae ein gwasanaeth trwsio ar gael i drwsio problemau yn eich cartref mor fuan ag sy’n bosib.
Mae yna sawl ffordd o wneud cais am waith trwsio:
E-bost: ymholiadau@adra.co.uk
Ffôn: 0300 123 8084
Yn anffodus, ni all ein tîm wneud bob dim. Ond peidiwch a phoeni dyma fideos byr i’ch helpu gyda rhywfaint o broblemau bychain yn eich cartref.
Fideos i’ch helpu:
Awgrym: os yw’r fideos yn rhy gyflym, stopiwch y fideo a’i ail-chwarae pan rydych yn barod.
Ail osod pwysau eich boeler gyda goriad
Ail osod pwysau eich boeler gan ddefnyddio dolen llenwi
Goleuadau
Sut i waedu rheiddiadur ac addasu thermostat
Toiledau wedi eu blocio
Gwasanaethu eich boiler - beth i'w ddisgwyl
Mae dyletswydd arnom I sicrhau fod eich boiler yn gweithio yn iawn, felly bob hyn a hyn bydd rhywun yn dod draw i gael golwg arno. Byddwn yn anfon llythyr i chi gyda dyddiad.
Bydd modd newid y dyddiad os nad yw’n gyfleus.
Gwyliwch y fideo yma I chi weld yn union beth I’w ddisgwyl.
Eich cyfrifoldeb chi yw trwsio neu gynnal a chadw’r pethau yma:
- Ystafell ymolchi – trwsio cypyrddau, drych, cyrten cawod, rheiliau, plygiau a chadwyni
- Addurno – unrhyw waith peintio neu bapur wal rydych chi eisiau newid
- Bylbiau – newid unrhyw fylbiau golau
- Drysau – os ydych wedi cael carpedi newydd ac angen addasu’r drysau
- Offer trydanol – fel poptai, oergell a pheiriannau golchi dillad
- Llefydd tân a’r gosodiad o’i amgylch – unrhyw beth i wneud gyda’r gosodiad o amgylch y lle tân a’r badell lludw
- Gosodiadau a ffitiadau – pethau fel bachau cotiau a rheiliau cyrtens
- Gerddi – tywyrch, llwyni a gwrychoedd
- To ar oledd (lean-to) – to/cysgodfa yn sownd i ochr eich cartref
- Cloeon – os ydych yn colli eich goriad neu drwsio’r drws ar ôl mynediad gorfodol (Ad-daliad)
- Pwyntiau ffôn
- Seddi toiled – craciau yn y sedd neu sedd yn rhydd neu osod sedd newydd
- Erial teledu – ddim yn deledu cymunedol