Gwaith Trwsio
Mae cadw eich cartref mewn cyflwr da yn bwysig.
Mae ein gwasanaeth trwsio ar gael i drwsio problemau yn eich cartref mor fuan ag sy’n bosib.
Mae yna sawl ffordd o wneud cais am waith trwsio:
E-bost: ymholiadau@adra.co.uk
Ffôn: 0300 123 8084
Beth sy’n digwydd nesaf
Bydd aelod o staff yn cysylltu efo chi i ddewis dyddiad sy’n gyfleus i chi.
Yna, byddwn yn dod draw i wneud y gwaith.
Mae’n rhaid i oedolyn (16 neu drosodd) fod adref i ni allu gwneud y gwaith yn eich cartref.
-
Beth rydym yn ei drwsio
Dyma restr o’r pethau rydym ni yn eu trwsio a faint o amser sydd gennym i drwsio:
- Boeleri – rydym yn gwasanaethu boeleri bob blwyddyn
- Boeleri – trwsio eich boeleri (1 diwrnod rhwng Tachwedd – 30 Ebrill; 4 diwrnod rhwng 1 Mai – 31 Hydref)
- Glanhau simdde (dwywaith y flwyddyn)
- Ardaloedd cymunedol – golau, drysau, clo (1 mis)
- Ardaloedd cymunedol – golau argyfwng (1 diwrnod)
- Drysau – drysau allan, trwsio drysau a handlenni stiff (1 mis)
- Drysau – drysau allan , gosod drws newydd (6 mis)
- Draeniau – toiledau, sinc neu gawod wedi blocio (1 diwrnod)
- Ffensys a giatiau – trwsio ffens neu giât (6 mis)
- Lle tân a’r gosodiad o’i amgylch – brics (1 mis)
- Lle tân a’r gosodiad o’i amgylch – lle tân trydan (6 mis)
- Estyll llawr – trwsio twll mewn astell llawr (1 diwrnod)
- Estyll llawr – ail osod (1 mis)
- Gwydr – wedi cracio neu dorri (ei wneud yn ddiogel mewn 1 diwrnod, trwsio mewn 3 mis)
- Gyli – dadflocio gyli (6 mis)
- Dŵr poeth – trwsio boeler combi (1 diwrnod rhwng Tachwedd – 30 Ebrill; 4 diwrnod rhwng 1 Mai – 31 Hydref)
- Dŵr poeth – cawod drydan (3 mis)
- Cegin – trwsio colfach a gosodiadau ar gypyrddau cegin (1 mis)
- Cegin – cwpwrdd cegin neu wyneb gweithio newydd (3 mis)
- Golau – golau stribed wedi malu, golau ystafell ymolchi wedi malu, golau tu allan wedi malu (3 mis)
- Cloeon – clo wedi malu (1 diwrnod)
- Cloeon – addasu unrhyw golfach neu handlen stiff (1 mis)
- Plastro – gwaith trwsio bychan (3/6 mis)
- Plymio – tap wedi malu ac yn sownd a’r dŵr yn rhedeg yn gyson/ ddim yn rhedeg (1 mis)
- Plymio – dŵr yn gollwng neu beipen wedi byrstio ei wneud yn ddiogel – 1 diwrnod)
- Plymio – dŵr yn gollwng neu’n gorlifo (1 mis)
- Cynteddau – trwsio unrhyw broblemau (1 mis)
- To – os yw eich to yn gollwng yna byddwn yn ceisio ei wneud yn ddiogel (1 diwrnod)
- To – unrhyw waith trwsio ar ôl i’r to fod yn gollwng (3/6 mis)
- Golau diogelwch – unrhyw olau mewn ardal gymunedol (1 diwrnod)
- Golau diogelwch – unrhyw olau mewn ardal breswyl (3 diwrnod)
- Cawod – trwsio unrhyw gawod rydyn ni wedi gosod (3 mis)
- Larymau ac offer canfod mwg a charbon monocsid – os ydynt wedi torri (1 diwrnod)
- Socedi – socedi sydd ddim yn ddiogel (1 diwrnod)
- Socedi – socedi wedi malu (1 mis)
- Erial teledu – trwsio unrhyw erial mewn ardal gymunedol (1 mis)
- System awyru – trwsio unrhyw systemau awyru yn eich ystafell ymolchi neu gegin (3 mis)
- Teils wal – trwsio unrhyw deil wal sydd wedi malu (3 mis)
- Polyn lein ddillad – nid yw hyn yn cynnwys y lein ei hun (3 mis)
-
Beth yw eich cyfrifoldeb chi
-
Handiman
Mae pawb angen ychydig o help ar brydiau. Gall ein Handiman eich helpu gyda gwaith trwsio bach o gwmpas eich cartref, bydd rhaid i chi brynu’r adnoddau.
Cewch ofyn am wasanaeth yr Handiman os:
- ydych dros 60 oed
- ydych yn anabl
Cysylltwch efo ni os ydych eisiau Handiman i’ch helpu yn eich cartref.
-
Damwain, difrod neu esgeulustod
Byddwn yn trwsio pethau sydd wedi treulio a gwisgo yn eich cartref am ddim.
Os oes angen gwaith trwsio oherwydd:
- nad ydych wedi edrych ar ôl eich cartref
- bod rhywun yn eich cartref wedi achosi’r difrod
- bod plant wedi achos difrod
- fod anifail anwes wedi achosi difrod
Bydd rhaid i chi dalu am y gwaith trwsio.
Byddwn yn dweud cyn cychwyn y gwaith os bydd gofyn i chi dalu am y gwaith.
Byddwch yn cael amcan bris am y gwaith cyn i ni ddechrau’r gwaith.Yna, byddwch yn cael anfoneb ar ôl i ni orffen y gwaith. Bydd y swm yma yn dangos ar eich cyfrif tan y byddwch wedi ei dalu.
Os yw’r difrod wedi ei achosi gan drosedd, fel bod rhywun wedi torri i mewn i’ch cartref, yna bydd angen i chi ddweud wrth yr Heddlu.
-
Gwaith Cynnal a chadw wedi ei drefnu o flaen llaw
Byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw yn eich cartref yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn cyrraedd ein safonau.
Mae hyn yn cynnwys:
- gwasanaethu offer nwy a thanwydd solet bob blwyddyn
- gwiriadau diogelwch trydanol bob pum mlynedd
- addurno mannau cymunedol mewn fflatiau a Tai Cefnogol
- cynnal a chadw lifftiau cymunedol, larymau tân a mwg a offer diogelwch tân
- golau diogelwch
- tynnu asbestos
- gwiriadau diogelwch tân in adeiladau cymunedol
- archwilio cyfleusterau cadw dŵr cymunedol
- cynnal a cahdw mannau gwyrdd ac agored
- canfodyddion mwg/ gwres/ CO2 yn cael eu profi bob blwyddyn