System Awyru PIV
Pwrpas system awyru PIV (Positive Input Ventilation) ydi gwella ansawdd yr aer yn eich cartref a lleihau’r halogyddion (halogens).Sut mae’n gweithio
Mae’r system PIV yn cylchredeg aer ffres trwy’r cartref.
Sut mae’n gweithio
Mae’r system PIV yn anfon aer ffres trwy’r cartref.
Mae’r system hefyd yn gwneud yn siŵr nad oes lleithder (tamprwydd) neu halogiad wedi datblygu. Byddai hyn yn gallu achosi difrod i’ch cartref a’r bobl sy’n byw yno.
Felly mae buddion i’r bobl sy’n byw yn eich cartref ac ar gyfer yr adeilad ei hun.
Pam gosod system PIV
Mae datgarboneiddio ein cartrefi yn bwysig iawn i ni.
Dyma pam rydym yn gwneud gwaith ar ein cartrefi i wella eu heffeithiolrwydd, pethau fel:
- gosod ffenestri dwbl a drysau dwbl
- insiwleiddio waliau allanol
- insiwleiddio’r atig
Ond gall y pethau yma i gyd leihau yr aer naturiol yn eich cartref, sy’n golygu bod angen helpu’r aer deithio o gwmpas.
Gall system PIV wneud hyn.
Rydym yn gosod uned gyda motor arno yn atig eich cartref gyda griliau sydd wedi eu lleoli mewn llefydd penodol ar y nenfwd.
Bydd hyn yn sugno aer o’r atig, ei hidlo trwy’r uned i gael gwared o unrhyw amhurdebau a llygrwyr (impurities and pollutants) cyn defnyddio pwysedd positif i symud aer trwy’r cartref.
Mae gwres cynnes yn y cartref yn casglu ar lefel y nenfwd, gall hyn fod hyd at 7°C yn uwch na’r aer ar lefel y llawr.
Bydd yr uned PIV yn helpu i symud yr aer yma o gwmpas eich cartref. Hefyd, drwy osod system PIV a darparu aer ffres wedi’i hidlo yn y cartref, mae aer llaith yn cael ei symud heb orfod agor ffenestri.
Mae gan nifer o’r unedau hyn elfen wresogi sy’n cynhesu’r aer a gyflenwir i’r cartref pe byddai’r aer sy’n dod mewn yn mynd o dan 10°C.
Costau Cynnal
Mae gwahanol fodelau yn cael eu rhoi yn ein cartrefi ni, yn yr achos yma rydym am edrych ar wresogydd sy’n defnyddio 500W.
Bydd gwresogydd 500W yn defnyddio 1kw o drydan am bob 2 awr y bydd ymlaen.
Mae sawl ffactor sy’n effeithio ar union amser rhedeg y gwresogydd ac felly nid yw’n bosib rhoi ffigwr pendant.
Dim ond pan fo angen y bydd y gwresogydd yn rhedeg.
Mae’r system PIV rydym ni yn ei gosod yn rhedeg ar fodur wat isel iawn.
Pan fydd y ffan yn rhedeg ar gyflymder 1 neu 2 (trickle / medium) ac y gwresogydd i ffwrdd.
Mae hyn yn gyfateb i:
- 96 wat- defnydd dyddiol
- 35kW defnydd blynyddol
I weld beth fydd eich costau cynnal blynyddol, bydd angen i chi luosi’r pris rydych yn ei dalu am bob awr cilowat o drydan (ar eich bil) gyda 35.
Er enghraifft, os ydych yn talu 30c fesul kWh am drydan, byddai eich cost flynyddol yn:
- 0.3 x 35 = £10.50 y flwyddyn.
Mae’n bwysig cynnal a chadw systemau PIV i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio’n iawn.
Dyma fanylion y gwahanol dasgau sy’n rhan o’r broses cynnal a chadw a pha mor aml mae hyn yn digwydd.
Tasg | Amlder | Cyfrifoldeb |
Sicrhau nad oes llwch a baw yn casglu ar y modur yn y nenfwd. | Fel bo’r angen – byddem yn argymell cadw golwg yn wythnosol. | Tenant |
Rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy’n atal y system rhag gweithio. Gall hyn olygu mwy o sŵn dros gyfnod hir o amser. | Cyn gynted a phosib ar ôl darganfod y broblem. | Tenant |
Ymateb i gwynion am broblemau gyda’r system | Byddai hyn yn dilyn amserlen ein gweithlu ar ôl i ni dderbyn yr ymholiad. | Adra |
Gwiriad cylchol (periodic check) i wneud yn siŵr fod y system trydanol dal wedi ei gysylltu i’r modur, gosod ffilter newydd/ glân. | Pob 5 mlynedd, neu pan fo rhywun yn symud o’r cartref a bydd tenantiaid newydd yn symud i fewn. | Adra |
Newid y system PIV/ gosod un newydd | Byddwn yn ystyried oes yr offer yn ein bas-data yn ogystal byddwn yn ystyried offer neu dechnoleg newydd sydd yn dod ar gael. | Adra |
Os ydych yn dymuno trefnu asesiad o’r uned PIV i sicrhau mai dyma yw’r datrysiad cywir ar gyfer eich cartref, cysylltwch â ni i wneud cais i Syrfëwr Eiddo ddod i’r cartref i asesu’r trefniant presennol ar sail unigol.